Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. Croes Ein Harglwydd Iesu Grist. (parhad.) Y canolbwyät rhyfeddaf yw croes Crist. Canolbwynt tragywyddoldeb ei hunan. Bwriadau, cynghor, arfaeth, a rhagluniaethiad y tragy- wyddoldeb diddechreu, yn cyrchu at, ac yn dyfod i boint yma. Yma hefyd y mae holl ryíeddodau a mwynhad y tragywyddoldeb diddarfod wedi ei seilio. Yr oeddynt fel dyfroedd wedi tarddu allan er tragy wyddoldeb, ac yn ffrydio i'r golwg yn Eden mewn addewid i Noa mewn cyfammod ac enfys, i Abraham mewn cyfammod ac enwaediad, i Isaac mewn cyfammod, pasg, a gwaredigaeth; ond ar y groes yn ymagor yn ffynnon y dydd hwnw. Yr oedd y bwriadau tragywyddol fel sparhs yma ac acw, ond yn haul ar y groes. Launchhcyd y Uong fawr cyn bod y byd ; gwelid cip-olwg arni drwy'r niwl gan batriarchiaid a phrophwydi; ond daeth at y quay ar Galfaria fryn. Sel ar weithred y tragywydd- oldeb roddwyd yno—cwlwm ar dragywyddoldeb yw hi— y linc auraidd i gydio y ddau dragywyddoldeb. Cyfar- fyddodd y ddwy oruchwyliaeth yma. Yr oedd ganyrhen oruchwyliaeth allorau a thân, ebyrth a gwacd, cymmod a glanhad; ond cysgodol adgoíl'a a rhagddangos. Y mae gan oruchwyliaeth yr efengyl ei hathrawiaeth, ei bedydd, a'i chymmun. Yr ymadrodd am y groes yw yr efengyl— symbol o'i hangau yw y cymmun—ac arwydd o'i rhinwedd yw y bedydd. Y groes yw hinge ddwyfol y ddwy oruch- wyliaeth. Y grces hefyd yw canolbwynt yr ysgrythyrau. Mae y ddau Destament fel y ddau gerub oedd ar y drugareddfa, bob un â'u hwynebau at eu gilydd, a'r ddau yn cydedrych ar y drugareddfa. Addewidion, cysgodau, a phrophwyd- oliaethau yr Hen Destament ydynt yn edrych ati hi. Ath- rawiaeth, hanesiaeth, tystiolaethau asacramentauy Testament Newyddydyntâ'uhwynebatyrunman. Yrhollysgrythyrau