Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. Croes Ein Harglwydd lesu Grîst. Abwydda y gair weithiau y pren ar ba un y bu farw» Bryd arall, athrawiaeth yr efengyl—hefyd, y dyoddefiadau oblegid crefydd. Ond yn benaf, dyoddefiadau Crist, a'u rhinweddau fel iawn i Dduw, a gobaitji bywyd, ae adferiad peehaduriaid i ddelw Duw. Galìem feddwl mai hoff air Paul oedd y groes. Pan soniai am waed Crist, galwai ef yn "waed ei groes efi" ac am ei angau, galwai ef yn "angau y groes ;" dy wedai iddo " ddyoddef y groes;" yr enw cyn- hesaf a allai roddi ar yr efengyl, oedd ei galw yn "ymadrodd am y groes." A chynhesiawn y dywedai am " Iesu Grist a hwnw wedi ei groeshoelio." Y groes yw sail yr efengyl, mater yr efengyl, ac amcan yr efengy]. Ni buasai efengyl heb y groes, na rhinwedd ynddi, ond trwy y groes; a chael pechaduriaid ati, mewn gobaith a chydymffurfiad, yw amnan uchel efengyl Crist. ArBÌ hi y cydgyfarfu y rhyfeddodàu penaf, Beth oedd Areh Noa—Pabell Moses—Teml Solomon—a Herod, a holl ryfeddodau natur a chelfyddyd, ynghyd wrth ryfeddodau y groes ? Dim, dim ! Ni chafwyd y fath olygfa ar y natur ddynol erioed, ag a gafwyd mewn cysylltiad â'r groes. Ni ehafodd y natur ddynol y fath gyfie i roddi arllwysiad i gynddaredd ei gel- yniaeth a'r pryd hyny. Ni all y meddwl dynol, yn ei 'stad lygredig, o leiaf, aros nemawr ar egwyddor unrhyw beth, nac ychwaith weithreduar Dduw anweledig; ondar y groes, wele Dduw yn y cnawd, mewn rhyw ystyr, Dduw yn eu gwydd, yn eu dwylaw, yn eu cyrhaedd—a diarbed fu y traha. Pe cymerem drem ar drueni y natur ddynol yn nghasineb Cain, gwawd Ismael, llid Esau, creulondeb Pharaoh, traohwant Baiaam, dichellîon Jesebel, &c, ni cheir ef ond megya dim crbyn ei gymharu â'r trueni fu tu a'r groës. Pan gofiom mai Mab Duw oedd yno, y Sanctaidd! gellid galw ei natur yn burdeb saneteiddrwydd, ei fywyd Medi, 185L]