Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEIMOGWERTH. Sir Feirionydd. Cjtunwyd ar y llythyr a ganl>n fel anerchiad oddiwrth Gyfarfodydd Misol sir Feirionydd at yr eglwysi, yn niwedd y flwyddyn 1850. Anwyl Frodyr, Gelwir arnom i'ch cyfarch y tro hwn ar adeg bwysig yn hanes ein gwlad, pan y mae y dyn pechod yn gwneyd ymdrech newydd i adfeddiannu Lloegr a Chymru. Diau na ddylem fod yn ddideimlad yn achos teyrnas y Gwaredwr yn mhob rhan o'r byd, nac yn hwyrfrydig i wneuthur a allom trwy ein cyfraniadau a'n gweddiau o blaid ei llwydd- iant. Ond y mae yn gweddu hefyd i ni gydnabod yr Arglwydd â chalon ddiolchgar, wrth ystyried fod y sir fechan yr ydym ni yn byw ynddi wcdi ei chadw mor llwyr oddiwrth bob cyfeiliornadau dinystriol; a'n hyder ydyw y cedwir n^eto rhagllaw. Erhyny, dichon i ysbryd a hanlbd Pabyddiaeth ddyfod i mewn yn ddiarwybod i'n plith ninnau. Byddwn yn wyliadwrus rhag rhoddi gormod o bwys ar ffurf yn lle sylwedd. Gochelwn pob peth tebyg i dräar- glwyddiaeth. Nac ymfoddlonwn ar gyflawniadau allanol heb y gras tufewnol. Ac na ddilynwn draddodiadau ein liynafiaid ninnau, ymhellach nag yr oeddynt hwy yn dilyn Crist. Ond pa un a ydym ni yn y parthau hyn mewn perygl oddiwrth Babyddiaeth Rhufain ai nid ydym, y mae yr un cynghor ag oedd yn addas o'r blaen, yn cyfateb hefyd i amgylchiadau y dyddiau presennol. Os daw gelynion newyddion i ymosod arnom, nid oes eisieu newid yr arfogaeth. Yr un cleddyf a brofwyd yn effeithiol lawer gwaith yn erbyn byd, a chnawd, a diafol, sydd yn ddigon miniog i wrthwynebu y pab a'i offeiriaid. Hwnw yw cleddyf yr Ysbryd, sef Gair Duw. Yr un golofn sydd wedi ein harwain yn ddiogel hyd yma, a saif eto os bydd achos, yn amddiffynfa rhygom a'r Aiphtiaid. Darllenwn Ebrill, 1851.] * e