Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEIJSIOGWERTH. Egwyddorion y Gyfraith Iuddewig. À tdyw yr Hen Destament yn rheol i ni yn yr oes hon ? Y mae hyn yn cael ei ofyn gan rai yn Nghymru. Nis gwyddom am un gofyniad yn haws ei ateb. Mae yn amlwg fod yr oll o'r Hen Destament wedi ei fwriadu i fod yn rheol i bawb yn mhob oes. Penderfynwyd y mater hwn gan yr Apostol Paul yn y geiriau hyny, " Yr holl ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyíiawnder." Nid rhanau a ddywedir, ond " yr holl ysgrythyr." Ac nid yr oll o'r Testament Newydd a feddylir ; oblegid mae yn rhaid mai at yr Hen Destament y mae Paul yn cyfeirio, gan ei fod yn dywedyd wrth Timotheus yn yr adnod o'r blaen, " Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythyr lan." Ond yn mha ystyr y mae i ni ddeall fod yr Hen Desta- ment yn rheol i ni yn yr oes hon ? Mae yn ymddangos i ni nad oes yma eto ond ychydig o anhawsder. Nid oes eisieu un dull o esbonio yr Hen Destament yn wahanol oddiwrth y Newydd. Mae y naill yn rheol yn yr un ystyr yn hollol a'r llall. Yn y naill fel y llall mae ynrhaidibob dyn arfer y synwyr a roddodd y Creawdwr iddo i ddyfod o hyd i'r egwyddorion sydd niewn grj'm yn mhob oes. Oblegid eu bod yn metliu gweled ymhellach na 'r ffurf allanol, y mae yr Iuddewon, hyd heddyw, yn gwrthod y Testament Newydd ; ac oblegid yr un achos, y mae rhai yn -Nghymru yn gwrthod yr Hen Destament. Nid yw y ffurf ond gwisg, yr hon sydd yn newidgydag amgylchiadau; ond yr egwyddorion ydynt dragywyddol, a'r rhai hyn a fwriadwyd yn addysg i ni. Pe ineddyliem am Grist yn golchi traed ei ddysgyblion, nid oes neb a ddichon wadu fod yr hanes yma yn rheol i ni : ao os yw rhai yn tynu cam- gasgliad, ac yn dilyn y ffurf yn rhy lythyrcnol, nid y sv byny Mawrtii 1851.]