Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTII. Daniel Rowlands, a'i Amserau: GAN Y PARCH. WILLIAM PRYSE, CENADWR, CASSIA. Ganwyd Daniel Rowlands yn agos i dclechreu y ddeunaw- í'ed ganrif (1713), blwyddyn o flaen G. Whitfield, un o brif ddiwygwyr Seisnig yr oes. Nodweddiad cyffredinol y ganrif hon oedd yn lled gy- mysglyd. Cafodd dysgyblion Loyola gyfnod hynod lwydd- iannus yn ei dechreu; tra yr oedd y Ffrancod yn hau yr hadau Jesuitaidd yn Ngogledd yr America—o St. James' Bay i Louisiana—eu cymydogion deheuol a hauasent yr un- rhyw hadau yn dewaeh fyth o Ogledd California i Ddeheu Chili: ac ymron ni wyddis pa fodd. Erbyn codi ein lly- gaid, wele resi ar resi o'r swyddwyr sanetaîdd—rhyw lu aneirif—yn ymdori i'n golwg dros y cyfandir diderfyn, o ynysoedd Japan, a Pehin, China, yn y dwyrain ; i'r Ganges, ac yn wir i raddau mwy neu lai hyd yr Indus, ar gyffiniau Persia, yn y gorllewin. Ac er nad oedd diwydrwydd y blaid sanctaidd yn llai yn Ewrop; eto trwy athrylith ysgrifeniadol Quesnel, a dyfeisiau dadleugar ei blaid y Jansenitiaid, cyn diwedd y ganrif (1773), wele'r blaid sanct- aidd yn trengu, ac yn cael y " dirfawr benyd " o dderbyn y ddyrnod farwol, trwy awdurdod y teyrn-gadeiriau hyny, pa rai a'i coleddent fwyaf o'r blaen. Gyda ei rnarwolaeth, bu farw taranau awdurdod y pab yn eglwys St. Pedr yn Rhufain. Ac os adgyfododd y Jesuitiaid yn rhywT ddull; y mae'r bulls yn farw byth. Y ganrif hon oedd " oes athronol " Ffrainc, yn yrhon yr edryehai y Ffrancod am agos i bob math o wybodaetli ddy- lifo oddiwrth Voltaire; yr hwn a gafodd gydweithredydd ffyddlawn yn Housseau, ond ei fod ychydig yn llai com- plete, a mwy benywaidd, nag ef ei hun, mewn golygiad meddyliol a moesol: trwy ddefnyddioldeb eu hofferynau, gwaith Diderot, D' Alembert, ac eraill, taenwyd eu hathr- Ionawh, 1851.] B