Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH Imenctid Dafydd. Pan yr ystyriom fod Salmau Dafydd wedi eu cyfansoddi gandde yn,neu gyda golwg ar y gwahanol amgylchiadau yr aeth drwyddynt, a bod llawer o'r amgylchiadau hyny wedi dygwydd cyn ei esgyn- iad i orsedd Israel, tybiem y gellir cael eglurhad lled helaeth arj hanes a'i gymeriad yn yr yspaid hwnw o'i amser yn y Saîmau Â'n gorchwyl presennol fydd ceisio chwilio i mewn i'r Salmau edrvch pa eglurhad a allwn ei gael ar ieuenctid Dafydd. Gwyddom trwy yi hanes sydd genym am Dafydd ei fod yn fab Jesse, y Bethlehemiad, a bod Jesse yn dìsgyn o linach Boaz, hanes yr hwn ydym yn ei gael yn llyfr Ruth ; ond er fod Jesse yn disgyn o linach Boaz, nid oes genym le i gasglu ei fod mor gyfoethog ag ef, canys dygir y naill i syîw fel un ynmeddiannu etifeddiaeth lled helaeth, a'r llall yn meddiannu ond ychydig ddefaid. Cadarnhëir y dybnad oedd Jesseyngyfoethogynyr hanes agawnam yrhyna gymerodd le rhwng Samuel agef; pan ygorchymynwyd iido ddwyn ei feibion i ymddangos per bron Samuel, ac y gofynwyd iddo, " Ai dyma dy holl blant ?" Yntau a atebodd. " Yr ieuengaf et© sydd yn ol, ac wele y mae efe yn bugeilio y defaid." Oddbrrftíf hyn y gellir casglu mai o dan ei ofal ef yr oedd yr holì ddefòtâ. Hyn hefyd a gadarnhëir gan yr ymddyddan a gymerodd le rhwng EHab a Dafydd yn y gwersyll. Eliab a ofynodd iddo, " Paham y daethost i waered yma ? a chyda phwy y gadewaist yr ychydig ddefaid hyny yn yr anialwch ?" Pe buasai yno rywun arall ofalu am danynt heblaw Dafydd, buasai gofyniad Eliab yn afreid iol, oblegid gallasai feddwl ei fod wedi eu gadael i ofal y rhai oedd gydag ef. Oddiwrth yr hyn y gallwn gasglu nad oedd Jesse yn feddiannol ar gyfoeth mawr. Ac wrth gadnr hyn mewn golwg yr ^dym yn cael eglurhad ar lawer o'r Salmau a gyfansoddodo Dafycíd wedi esgyn i'w fawredd a'i wychder breninol. Er ei fod yn eistedd ar oisedd ogoneddus, ac yn barnu deuddes; llwyth Israel; yr oedd >y* eofîo y graig ei naddwyd, a oheudod y ffos y cloddiwyd ef o honi; ac wrth gymharu ei sefyllfa bresennol â'r un flaenoroî, nis gaiJai lai na chydnabod daioni yr hwn a'i dyrchafodd: acymhlithrhanau eraill o'i waith sydd yn sylwi ar hyn, gallwn nodi y rhai ean- ynol:— ** Pwy sydd fel jrr Arglwydè ein Duw nif Yr hwn sydd yn preswyíio yn achel ? Yr hwn a ymddarostwng i edrych Y pethao yn y nefoecid ac yn y ddaear 1 Efe sydd yu codi y tlawd o'r iiwch, Tachwbdd, 1800.1