Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. Enio Da. Nid oes dim y dylai dyn ei werthfawrogi yn fwy, na bod yn fwy gofalus yn ei gvlch, na'i enw da. Diammhau, pe byddai rhîeni yn fwy ystyriol o hyn, wrth ddwyn eu plant i fyny, yn eu hesamplau a'u cynghorion, y byddai hyny yn cael awdurdod gadarnach ar, ac yn meddu gafael mwy diysgog yn nghydwybodau ieuenctyd ein gwlad pan y deuant i ddechreu meddwl drostynt eu hunain. X7n o'r pethau mwyaf grymus ar feddwl yr ieuanc yn ffurfiad eigymer- iad yw y gymdeithas y mae yn troi ynddi. Adwaenir gwr wrth ei gyfaüL Y mae delw y teulu yn sicr o fod ar y plant; a phan yi elont o1r cylch hwnw, dewisant gyfeillion tebyg iddynt eu hunain : os byddant heb gael netnawr o addysg, na chwaeth at wyboaaeth, ceir eu gwelei yn cymysgu â'r cyffelyb; ac y mae holl lygredig- aethau y galon yn barod i dori allan trwy unrhyw lwybr ag y caffont gyfleusdra. Ni fynem i neb feddwl ein bod yn tybied fod unrhy w addysg yn ddigonol i orchfygu llygredigaethau pechadur, yn annibynol ar ly wodraeth crefydd ar y galon. Na, nid oes dim a ddichonfeidyginiaethupechaduro'rgwraidd ond gwir grefydd: a< yr un pryd y inae lle i ofni y gall fod cryn gamsyniad yn meddwl ambell un yn mherthynas i hyn; ac hwyrach fod rhai yn dwyn hyn fel esgus i dawelu eu cydwybodau o herwydd eu hesgeulusdra gyda'u teuluoedd. Y maa cyfranu addysg yn beth ag y mae y Creawdwr wedi rholdi mantais braidd i boo rhieni ei wneuthur i> plant. Y mae hyn yn beth y gallant ei wneyd, ac yn be^h • dylent ei wnejrd. Yr ydym yn canfod hefyd fod ílawer o bethjau yn cael eu gosod o flaen y dya sydd wedi cyrhaeid ychydig o wybodaeth ag sydd yn gyjBihelliadau i fyw yn foesol, ac i ofaluam ei enw da, nad yw yr anwÿbodus yn teimlo dim oddiwrthynt. Y mae dilysrwydd nodweddiad yn cael ei werthfawrogi yn ol graddau gwybodaeth dyn, hyd yn nod er i'r dyn fod yn gref/ddol. Ni ödywedir nad oes eithriadau cywilyddus i hyn, ond dyma vdyw y rheol. Gwir yw fod teimlad bywiog o ofn l)n„w yn y meddwl yn peri i'w berchenog gilio oddiwrth bob petù sydd yn groes i orchym- ynion Duw, cybelled ag y mae yn deall pa bethau sydd yn ddrwg; ar yr ua pryd y î«»c y teimlad hwnw yn cyffröi llafur; ond pan y aaae Dywiogrwydd y teimlad yn lleddfû, y mae y llafur yn peidio, el y mae y dyn yn cael ei arwain i fesur mawr gan ei deimladao, ac o dan anfantais ddygn i fyw trwy ffydd; tra y mae y dyn sydd w«di llafurio ac wedi cael addysg grefyddoí, yn meddu gwell man- taìs i deimle, a chrefydd a sancteiddrwydd yn bethau mwy pwysig yn ei feddwl, a thrwy hyny yn meddu dylanwai cry&ch ar ei ym- arweddiad. Dylfti rhîeni ddefnyidio pob cyfleusira a gaffont er Awbt, 1850.f