Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. Anfoesoîdeb meion cysylltiad ag Áddoliad cyhoeddus* At y Golygwyr. BiAMMHAtr foi y " Geiniogwerth" yn gyfrwng buddiol i goethi moesau y gene<il, ac mor ddiammhau hefyd a hyny, yr etyb yr yrodrech diweddar at hyny fwy o ddyben er diwyllio y genedl nag a feddyliech. Hwyrach nad ofer y cyfrifwch, ac nad gwrthodedig genych fydd ychydig sylw ar yr annhrefn sydd mewn cysylltiad â moddion gras. Tybiwyf fod y Cymry ymhell iawn yn ol i'r Saeson yn ngwedd- eidddra eu hymddygiadau a'u moesau yn addoliad y Bod Goruchaf. Sjlwai gweinidog Seisnig, pan yn pregethu mewn lle yn Nghymru, yn synu at dwrf, peswch, a llefain plant, &c. ar y pryd, a dywe<Jai, " Mai un pwnc mawr yn ei grefydct ef ydoedd peidio gosod rhwystr ar ffordd un arall i addoli." Mae yn fwy na thebygy synai llaẅer o'r Saeson, pe y gwelent liaws o bethau gwaelion ein cenedl yn eu haddoliadau cyhoeddus. Beddai ambeíi i ddarlith ar iawn drefn mewn addoliadau cyhoeddus yn wir fuddiol; ynghyd a chyfar- wyddiadau eglur, cyfeirîol, a bywioe ; ond ychydig o hyny awneir. Arfer*i y brawd JDavid Roberts, o Fangor, wneyd hyny yn awr a phryd arall, a barnai y cyfeillion fod hyny yn effeithio er daioni. Fe ailai mai un achos o'r annhrefn hwn ydy w, diffyg yn y dygiad i fyny. Gwneir lliaws y gynnulleidfa i fyny o rai na chawsant braidd ddim ysgol ddydaiol, na gweled dim ar goethion y byd, na manteision gwell i ddeali egwyddorion gweddeidd-dra c^mdeith- asol, n»g a allent gael ar aelwyd y cartref. Ni buont erioed mewn na llan na lle, ond mewn capel neu ddau yn agos i girtref. Achos arall, o bosibl, ydyw fod yr annhrefh wedi ei hir oddef bellach, heb arfer un ymdrech arbenig er ei symud, nes ydyw erbyn hyn yn reddfol, a phan fyddo unrhyw beth felly, bydd yn anhawdd iawn ei symud. Cerddodd o dad i fab, o fab i ŵyr, &c.; y pregethwr, y blaenor, yr hen, a'r cyhoeddus ;—felly parhau i ymestyn ymlaen, a chadarnhau y mae vr annhrefn. Dylem ystyried fod y Duw mawr a'i wasanaeth yn teilyngu agweddau gweddaidd cystal ag y teil- ynga ddybenion cywir, ac nad y w cywirdeb y dyben yn rheswm ac esgusawd dros annhrefn agweddiad. Priodol yw y dyb, y dylem amcanu at foneddigeiddrwydd yn mhob ymddygiad yn nhý Ddaw. " Perchwch fy nghysegr. Sancteiddrwydd a weddai i'th dý di, O Argiwydd, byth." "Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dỳ Dduw." " Fel y gwypech pa tbdd y mae yn rhaid i ti yn> ddwyn yn nhỳ Dduw. «*Mor ofnadwy yw y lie hwn î Nid ee» Ioìuwb, 1850.]