Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. Cyfaül y Bobl: GAN Y PABCH. JAMES HAMILTON. Yn y ganrif olaf, fe ennillodd un o ymherawdwyr Rwsia lawer o glod trwy yr ymdrechiadau a'r aberthau a wnaeth er mwyn ei ymherodr- aeth. Yn gymhelledig gan ei chyflwr barbaraidd, a llawn awydd i ddwyn i mewn fedrusrwydd celfyddydaidd gwledydd cywreiniach, e fwriadodd fod ei hunan yn ddysgawdwr i'w bobl. Yn lle danfon ychydig o ddynion dysgedig i wahanol wledydd i gasglu yr hyn a allent, penderfynodd fod yn negeseuwr iddo ei hun ; a chan adaei ei balas breninol yn Moscow, cychwyuodd i y mdeithio yn Holland aBry- dain. Yr oedd yn neillduol o awyddus i ddwyn adref wybodaeth o'r gelfyddyd o adeiiadu llongau, canys barnodd yn ddoeth nad allai heb longau a Hongwyr droi i bwrpas da adgyfnerthoedd ei wlad. Ond daeth yn fuan i ddeall na ddysgai neb y fíbrdd i adeiladu llong wrth e irych yn unig. Eto beth bynag oedd yn eisieu i'w gym- hwyso i wneuthur hyny, yr oedd Pedr wedi penderfynu i'w mynu. A chydag egni ardderehog fe newidiodd ei ddillad breninol am wisg saer, ac fe'i gwelwyd yn treulio wythnos ar ol wythnos yn yr adeÙfan yn Saardam yn hwylio 'r fwyall, rhwbio a'r pỳg-brush, a gyru 'r bolltau nes i furiau 'r argaudỳ adseinio; a buan yr oedd yn gymhwys i ddychwelyd ad/ef i ddysgu ei bobl i wneyd llongau iddynt eu hunain. Nid yw yn rhyfedd i wlad ddiolchgar adeiladu i'w gôf y golofn ardiierchocaf yn y byd, a galw prif-ddinas yr ym- herodraeth ar ei enw ef. Llawer mawreddusach na'r weithred hon o eiddo 'r ymherawdwr ydyw rhai ffeithiau a goffêir yn hanes dyngarwch. Mwy mawr- eddus, fel esiampl, ydoedd gweithred gŵr boneddig Seisoneg, yr hwn er cael gwybodaeth bersonol o erchylldod y &lave trade, ac er ei gymhwyso i dystiolaethu yn erbyn y fasnach uffernol ar ol hyny, a gymerodd ei dramwyfamewn caeth-long i Affrica—yn ym- foddioni i ddyoddef am fisoedd dan y dwymyn boeth, yn nghanol budreddi ffiaidd, a dyoddef hefyd bron bob awr i weled triniaeth ár ei gyd-ddynion a barai i'w waed ferwi mewn digofaint. Mwy urddasol fyth ydoedd ymddygiad y cenadwyr angelaidd hyny, y rhai pan fethasant mewn un ffordd arall bregethu yr efengyl i gaethweision duon Barbadoes, a werthasant eu hunain i gaefhwasanaeth, ac yna dywedasanti'w cyd-gaethweision y newydd a ollyngai yr ysbryd yn rhydfi. Ardderchoeaf o'r cwbl oedd hunan-offrymiad dau Forafiad, y rhai a lanwyd o dosturi wrth weled trigoiion rhyw ysbyttŷ ofnadwy— math o garohar ydoedd i ddynion â'r gwahanglwyf arnynt; a chymaint oedd ofn pobl y wlad rhag iddyntgael yr haint oddiwrth- yut, fei na oddefid i neb a äi i mewn, ddyfod aìlan byth wed'ym Er hrn oll, fe wasgodd cyflwr y true;niaid afiach yma gymaint ar EBRILL, 1849.]'