Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLEUAD CYMRU. OFNWCH DDUW. ANRHYDEDDWCH Y BRENIN. Rhif. CXLVÍ. RHAGFYR, 1830. [Llyfr vii. BYWGRAFFIAD. COFIANT AM DAVID JONES, Gors, Plwijf Uanbadarn fattnr, yn Sir Aberteifi. Yr oedd Rhieni David Jones yn byw yn Melin tan llan, plwyf Llanfihangel Creuddyn, Ue y magwyd ef. Yr oedd ei dad yn aelod yn Eglwys Loegr, ac ar- wyddion neillduol o dduwioldeb arno. Aeth David Jones oddi- wrth ei rieni, i wasanaeth, pan ydoedd yn ieuangc. Pan oedd efe ynghylch 19 neu 20 mlwydd oed, ymwelodd yr Arglwydd âg ef, trwy weinidogaeth y Parch. Daniel Rowlands. Argyhoedd- wyd ef yn ddwys iawn. Cadwyd ef yn hir dan ofnau mawrion, nes oedd yn barnu mai yn uffern mewn írueni anaele y byddai byth. Aml yr adroddai am y cyfyngder y bu ei feddwl ynddo yn nechreuad ei grefydd. O'r diwedd, trwy weín- idogaeth y gwr a enwyd uchod, hi wawriodd arno, yn yr'olwg ar yr iachawdwriaeth fawr yn Nghrist i'r penaf a bechaduriaid: a mawr fu ei orfoledd, pan welodd efe "gilfach, a glan iddi," A hyuod o ddiysgog a chadarn y bu ei feddwl yn ymddiried yn yr Arglwydd. Cafodd sicrwydd cryf i'w feddwl fod Crist yn fyw- yd tragywyddol iddo ef. Aml y dywedai, wrth foliannu yr Arglwydd, "Óh, fy mywyd anwyl"—'-Diolch iddo fil o weith- iau." Fe fyddai yn fynych yn gorfoleddu yn yr iachawdwriaeth, nid yn unig yn nechreuad ei gref- ydd, oud hefyd yn aml ar hyd ei oes; weithiau ganol nos yn ei wely—weithiau trwy fyfyrdodau gyda'i orchwylion—bryd ärall yn y cyfarfodydd cyhoeddus. Fe gaf- odd y fraint o gael ei gynnal yn yr eglwys ar hyd ei oes grefyddol, heb gael cymmaint ag un cerydd eglwysig yn yr holl amser. Efe a ennillodd y fath dystiolaeth yn nghydwybodau annuwiolion, a phawb ar a'i hadwaenai, trwy ei barch i'r efengyl a'i fywyd duwiol a chyfiawn, fel y dywedid am dano yn fynych, Os oes dyn duw. iol ar y ddaear, y mae Dafydd Jones yn un. Yr oedd yn un a fu yn llafurio gyntaf i gael pregetbu yr efengyl yn rhai manau yn mlaenau Sir Aberteifi, sef Cynon, a manau ereill. Efe a fu yn aeiod eglwys- ig gyda 'r Methodistiaid Calfin- aidd yn Nghynon dros amryw fiynyddoedd, ac efe agfnyn flaen- or yno am 55 o flynyddoedd. Yn ei ddyddiau diweddaf yr oedd ei olygon yn weiniaid, a'i glyw yn drwm, ac yr oedd gwendidau naturiol henaint yn peri nad allai efe ddyfod i'r addoliad cyhoedd- us. Er hyny yr oedd efe yn iach iawn o hyd, yn codi yn foren bob dydd, hyd y* gauaf diweddaf, er ei fod yn hen iawn. Un diwrnod y cadwodd efe ei wely cyn marw. Ni chlywid mo hono un amser yn achwyn ar ragluniaeth Duw, am na roisid y peth hyn neu y peth arall ar ei ran ; ond y rhan fyn- ychaf o'i fywyd yr oedd yn siriol 2z