Skip to main content

GOLEUAD CYMRU. OFNWCH DDÜW. ANRHYDEDDWCH Y BRENIN. Rhif. cxliii. MEDI, 1830. [Llyfr VII. SYLWADAÜ Aít IECHYD AC AFIECHYB, Amryw ydynt y rhoddion, a llios- og y trugareddaü y mae y Gor- uchaf yn eu cyfrannu i ddynol- ryw. Oddiwrtho ef y mae pob rhoddiad daionus yn dyfod—efe sydd yn ein llwytho beunydd a daioni—ei drugareddau ef yw na ddarfu àm danom ; ac iddo ef y mae y rhwymedigaethau cryfaf arnom i dalu y gydnabyddiaeth gywiraf, a'r mawl gwresocaf. Yn bresennol nodwn ychydig am y drugaredd werthfawr hono—iech- yd; ac amei gwrth-amgylchiad—. afiechyd. Un o'r bendithion rhagorafyn y fuchedd hon yw iechyd,—Y mae yn angenrheidiol er cyfiawni holl ddyledswyddau bywyd, ac er mwynhau holl gysuron bywyd. Edrychwn ar yr adyn yna sydd yn gorwedd ar wely cystudd. O mor drymion ei ofidiau—mor lymion ei loesau—mor ddwysion ei ruddfannau ! Llawn ydyw o boen, ing, ac anesmwythder; yn oriau tywyllion y nos y mae yn disgwyl yn hiraethlon am y boreu i edrych a gaiff ef ryw leihad o'i boen, ac wedi i'r dydd wawrio, gan faint ei gystudd y mae mor awydd- us eilwaith am y nos. Pa mor boenus yw yr ohog arno yn ei af- iechyd ; ond O í pa faint yw ei boen ef o tano ! Gall ystyriaeth f'el hon ein dwyn i werthfawrogi, i iawn ddefnyddio, ac i ddiolch am ein iechyd tra y mae genym. Iech- yd ywgwynfydyteyrn.achyfoeth y cardottyn—cysur y pendefig, a grym y llafurwr—sirioldeb y pa» las, a dedwyddyd y bwlhyn ; ond ysywaeth! nid oes ond ychydig yn ei brisio nes iddynt ei golli; nid yw dynion yn gyffredin yn gweled ei werth ond yn yr am. ddifadrwydd o hono. Dyledus arnom arfer moddon ef cadw a meithrin ein iechyd.—Gan ei fod mor werthfawr ni ddylem ei esgeuluso drwy ddibrisdod, na'i wastraffu trwy anghymedrol- deb, ond ein dyledswydd a'n budd yw ymdrechu am ei gadw, f'el jnr hyn sydd ýn rhoddi archwaeth ar bob mwynhad tymmorol. Iechyd, meddai doethawr, nid yw ond gair arall am ymarferiad a chymmcdroìder. Diammau, yn mhlith eraill, fod y pethau can- lynol yn dra buddiol fel moddion i gynnal iechyd:—bod yn gym medrol mewn bwytta ac yfed— codi yn brydlon, a myned i or- phwys mewn amser gweddus— cymmeryd ymdrechwaith bywiog yn fynych yn yr awyr agored— gochelyd yn ofalus bob poethder ac oeredd disymwth—a chadw tymmer siriol yn wastad, gan ado nwydau y meddwl mewn trefn addas ; heb roddi lle i drymder yspryd, digter, cynfigen, &c. Y mae tymmerau ffyrnig a gorth- rechawl yn treulio yn raddol y cyfansoddiad dynol; tra y mae agweddiad tawel y meddwl, ae ymarferiadau bywiog y corph yn cadw y galluoedd naturiol mewn llawn grymmusder a cbydgordiad, •2l ..' ■' -