Skip to main content

GOLEUAD CTMRU. OFNWCH DDÜW. ANRHYDEDDẄCH Y BRENIN. Rhif. cxlii. AWST, 1830. [Llyfr vii. BYWGRAPFIAD. COFIANT YCHWANEGOL AM WILLIAM PARRY O RUTHUN, Swydd Dinbych. William Parry ydoedd fab i Frederick a Jane Parry o dref Rhuthun, ac ŵyr i Mary Brom. field, neu Mary Parry yn ol enw ei gwr. Y wraigweddwhonMary Parry a dderbyniodd bregethu yr efengyl gyntaf i'w thŷ yn y dref hon ; ac aml fu ei cholledion o'r herwydd, ac nid diberygl fu ei bywyd fwy nac unwaith, oblegid maint yr elyniaeth i'w herbyn a'r erlid fu arni. Yn y cyfamser tywyll ac erlid- gar daeth Mr. John Owens o'r Beríhen gron, ar ddydd sabboth, i bregethu, i dŷ Mary Parry, pan oedd Frederick Parry yn wr ieuangc. Daeth lliaws o bobl y dref yno i derfysgu yr odfa ac i wawdip ac erlid y pregethwr a'r gwrandawyr. Dihangodd y pregethwr o'u dwylaw hwynt, a derbyniodd rhyw wraig weddw ef i'w thŷ, ac a'i cuddiodd ef, yn gyffelyb i Rahab gynt, yn cuddio yspiwyr o Israel, a bu mewn perygl bywyd o'r herwydd. Llangciau yr Ysgol oedd y prif erlidwyr y pryd hyny. Safodd un gwr ieuangc, o'r erlidwyr, ynghil post y drws, adarn o bren yn ei law, ac a darawodd bob un a ddeuai allan o'r tŷ â'r pren: yna tad William Parry, ac efeyn wr cryf, a ymaflodd yn nwyfron (breast) yr erlidiwr, aca'itaraw- odd yn erbŷn ei gefn wrth y post nes oedd ef yn sobi'i, a'i wyneb fel y calch, fel yr oedd yn bur dda ganddo gael diangc rhag cael ail gilcwth* Lluchiwyd amryw o'r gwrandawyr â thom yn eu hwynebau, a thaflwyd het un o honynt o'r enw Edward Simon o'r Gellifor, i'r afon. Yr oedd yn yr odfa wr o'r enw T. Edwards wedi dyfod yno o Gaergwrle i wrando 'r bregeth, ynghylch 16 milltir o ffordd. Yr oedd ganddo ddillad newydd am dano; trab- aeddodd yr erlidwyr hwynt â thom i gyd drostynt. Ganwyd William Parry yn y flwyddya 1780. Bu ei dad yn aelod, gyda'r Trefnyddion Cal- flnaidd am lawer o fìynyddoedd. Yr oedd ymrysoniadau ar feddyl- iau W. P. o'i febyd, ynghyleb y pethau mwyaf eu pwys, er na chafodd efe, hyd y gwn i, mo'i ddwyn i fynu yn yr elwÿs. Yr oedd yn fwy awyddus am ddar- Uen na llawer o'i gyfoedion. Ar- ferai hefyd weddio yn y dirgel, pan oedd yn fachgen. Pan oedd ynghylch 16oed, trodd ei wyneb iymofyn amleyneglwys Dduw, yn Rhuthun, lle y cafodd dder- byniad i gyd-gyfranogi â'r cyfeili- ion crefyddol yn eu mwynhad o'u rhagorfreintiau. Ymhen^chydig symudodd am yspaid i Liverpool, ynachoseialwedigaeth. Buyno oddeutu dwy flynedd, yn agos at feddwl y rhai a wyddent am dano. * Ryw dro ar ol hyn, fel yr oedd y gwr hwn yn gwatwar pregethu, yn ol ei arfer, tarawyd ef yn sal iawn, ac cfe a fu farw yn fuan. 2 G