Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLEUAD CYMR U. —♦®@®«— OFNWCH DDUW. ANRHYDEDDWCH Y DRENIN. Rhif. cxl.] MEHEFIN, 1830. [Llyfr VII. MARWOLDEB AC ÁNFARWOLDEB. "Gadawaf ddyn, anffyddlou ddyrus ddyn ; Gadawaf awr sy'n rhoddi'r byd ar dân; Gadawafenw sydd yn fwy na'roîl; Rho'f fy myfỳrdod ar y gwledydd pell, Ac ar yr oriau byddai'n myn'd i'r bedd." II. W. Pant y celyn. "Pabeth yw dyn ?" Creadur rhyfedd ymhob ystyr ; gwaeì yn ei ddefnydd—ardderchog yn ei gyfansoddiad—byr ei oes—a di- ddiwedd ei barhad. Efe yw campuswaith y greadigaeth; y mae yn eysylltüynghydyranifail a'r angel - y dduear a'r nefoedd ; y byd presennol a'r byd tragy- wyddol. " Gosodwyd i ddynion farw unwaith." "Nid oes i ni yma ddinas barhaus;" ond yr amser a gilia, yr oes adreulia," a dyn a drenga." Etto enaid dyn ni ddiffydd, ni dderfydd, ac ni phrawf drangcj a'rcorph hefyd, wedi ymgymysgu a phridd, a adgyfodir gan yr hwn a'i gwnaeth ar y dechreu o bridd : er y bydd y bedd yn hir gartref, ni býdd yn gartref olaf, oblegid rhaid "i'r marwol hwn wi.sgo anfarwoìdeb." Gan ein bod oìl yn rhwym i anfarwoldeb, gan mai marwoldeb yw y fynedfa i'n seíÿllfa dragy- wyddol, a chan fod y caiilyniadau mwyaf pwysig yn perthynu i'r pethau hyn, diammeu eu bod yn haeddu ein hystyriaethau dwys- af, yn gweddu «in myfyrdodau manylaf, ac yn gofyn ein hymof- yniadau pennaf. Ystyried ein cyrph a bair i ni feddwl am far- woldeb; ac ystyried ein heneidiau a'n dwg i syllu ar anfarwoìdeb. " O! na haent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diweddi'' sydd alarnad gwynfan- us a phriodol am y rhan fwyaf ẁ ddynolryw. Er íod holl anian yn mhell mewn darfodedigaeth, er fod angau yn tramwyo yn brysurathrystfawr trwy y gwled- ydd, ac er í'od effeithiau marwol- deb i'w gweled a'r bob ílaw ; etto ■nid ychydig yw y rhai sydd yn myned ymlaen yn ddifeddwl, yn ddioí'al, ac yn ddiystr, heb gym- meryd rhybudd, heb arfer sobr- wydd,ac heb ddechreu ymbarottoi. Taflasant yr ystyriaeth ddifrifol o'u meddyliau mor aml, fel nad yw ond anfynych yn eu cythryblu: tiallant freuddwydio am hir oes, hyd yn oed wrth rodio trwy fynwent lawn o feddau. Ychydig sydd yn meddwl am angau, hyd nes y byddont wedi eu dai yn ei grafangau arswydol. Ond pa un bynnag a feddyliwn am farwol- aeth neu peidio—pa un bynnag ai ystyriol neu ddiystr ydym—a plia un bynnag ai parod neu an- mharod yw ein cyílwr, nid yw ein marwolaeth yn hepian, nid yw ein diwedd yn oedi dyfod, ond y mae angau yn dynesu yxi sicr a distaw tu ag attom trwy y- tywyllwch annirnadwy, ac yn y foment na thybiom, gall chwyrn- daflu ei saetìi lem i eigion ein mynwesau !