Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLEUAD CYMRU. OFNWCH DDCW. ANRHYDEDDWCH Y BRENIN. Rhif. cxxxy.] IONAWR, 1830. [Llyfr VII. BYWGRAFFIAD. COFIANT AM MR. JOHN HÜGÍIES, O GAERNARFON, John Hughes, ydoedd fab i Mr. Hugh Hughes, Cadben Brig Sîran. Dygwyddodd iddo, yu ei fabandod, pan oedd o ddeutu dwy neu dair blwydd oed ysigo ei droed, pan oedddan ofal morwyn- ig ieuangc, ac yn absemioldeb ei rieni nas gwyddis etto pa fodd; ond tybir iddo syrthio yn ddam- weiniol, neu s^ael ei daro a chaingc o'r Parlys (JPalsy:) ond pa fodd bynag bu yn anafus o'r herwydd hyd angau. Yr oedd J. Hughes pan y daeth o ddeutu 7 ac 8 oed, yn fachgen adnabyddus i'r rhan fwyaf o drigolion Caernarfon, ac yn dra hoff gan y rhan fwyaf o'i gydnabod: yr oedd yn nodedig mewn pob digrifwch gwageddus, ac yn ymhoffi yn dynwared pre- gethu'r Efengyl. Yv oedd yn feddiannol ar ddoniau ehelaeth i ymadroddi, yn bur ieuangc, a thrwy hyny yu denu llawer i wran- do ar ei ffolineb bachgenaidd. Clywyd ef yn dywedyd iddo ofidio llawer pan oedd yn fachgen o herwydd ei gloffni, am fod hyuy yn lluddiais iddo fod yn offeryn mwy defnyddiol yn nheyrnas y tywyllwch. Pan oedd oddeutu deg oed, ymddifadwyd efo'i dad na- turiol ; gweithiodd hyny agos- rwydd neillduol ynddo at ei fam, a adawyd yn weddw. Yr oedd ei dynerwch, a'i ofal at ei fam yn yr aragylchiadau hyny yn beth tra Bodsdig arno fel bachgen. Yr oedd J. Hughes, yn ddibris iawn o wrandaw pregethau hyd nes oedd o ddeutu 13 oed,pan yr oedd wedi eiadael fel uno gywion yr Estrys ; ond trwy lafur, a di- wydrwydd ei ewythr W. Owen, Eilliwr, daeth i arfer gwrando piegethau yn lled ddiwyd. Yr oedd ei gof yn rhagorol y pryd hyny. Cofiai y pregethau a wran- dawai yn lled gyson,er nadoedd yn eti deall. Dechreuodd deimlo y Gwirionedd yn effeithio ar ei feddwl pan oeddo ddeutu 14oed. Argyhoeddwyd ef o'i ddull pech- adurus yn tréulio Sabboíhau, ac yn enwedigol o'i gyflwr truenus fel pechadur. Ennillwyd ei feddwl gan mwyaf wrth wrando pregeth ar Gen. xxiv. 58, "A âi di gyd a'r gwr hwn, &c." Af ol y bregeth uchod teimlodd gymmhelliadau cryfion i fyned av ol Crist, ac i wneyd proffes cyhoeddus o hono. Yn fuan wedi hyn ymunodd a Chorph y Metho'distiaid Calfin- aidd yn Nghaernarfon. Yr oedd J. Hughes fel ysgub blaenffrwyth y diwygiad grymus a fu yn Nghaernarfon, o ddeutu 12 mlynedd yn/)l. Yr oedd yn rha- gori llawer ar ei gyfoedion cre- fyddol, mewn syralrwydd, zel, a dawn. Cafodd bethau neillduolyn ei gyfrinach a'r Arglwydd, mewn dirgel weddiau. Byddaf ynmedd- wl yn aml am y parch oedd gan- ddo i'r Sabboth. Byddai yn arfar