Skip to main content

GOLEUAD CYMRU. OFNWCH DDUW. ANRHYDEDDWCH Y BUENIN. Rhif. cxxviii.] MEHEFIN, 1829. [Llyfr VI. BYWGRAFFIAD. COFIANT AM MR. EDWARD SIMON, O'R GELLIFOR. (Parhad tu dalen \32.) Yr oedd gofal E. Siraon yn fawr am yr Achos yn ei holl ranau fel eu gilydd ; a phob creadur ag oedd yn ei wasanaeth ef, yn ddyn ac yn anifail, oeddynt wrth- ddrychau mwyaf ei ofal a'i dos- turi. Llawenhai yn fawr wrth weled ei gyfeillion yn croesawi Pregethwyr, ac yn eu gwahodd gyda hwynt i'w tai i'w hym- geleddu, ohlegyd, meddyliai y caent ganddynt hwy amgenach gwasanaeth na'r eiddo ef. Ond (meddai)mae fy nrws i yn agored pan gauo drws pawb, a'm tŷ i yn gartref i achos yr A rglwydd byth: ac un o'r gorchymynion mwyaf pennodol a roddodd i'w blant, ar ei wely angau, oedd peidio troi Achos Iesu byth dros y drws. Pan anogai ei gyfeillion a'i gymmydogion i gyfranu at achos yr Arglwydd, dywedai yn feu- nyddiol ei fod ef yn rhoi rhyw- faint er's llawer o flynyddocdd, (fel y rhifai hwynt yn y diwedd yn 55 neu 56 o tìynyddoedd,) ac nad oedd efe un ddimai yn dlot- ach etto. Ac yn wir, (meddai efe) yr ydwyf yn meddwl yn fy nghalon, pe na buaswn yn rhoi, na fuasai genyf ddim i'w roi er's llawer blwyddyn cyn hyn : ond po mwyaf a roddwyf, mwyaf yr ydwyf yn ei #ael o hyd. Yr oedd efe yn hynod o barch- us o Weinidogion y Gair, ac ni welai ddim yn ormod i'w wneuth- ur iddynt a throstynt; ac yn eu plith byddai yn llawen ac yn hyfryd ei galon ; a chymerai ofal mawr rhag rhoi un achos tram- gwydd iddynt, na dywedyd dim a fyddai yn achos i'w llwfrhau a'u digaloni: ac am lawer o'r rhai a hunasant yn Neheudir Cymru, dywedai fod undeb an- nattodol rhyngddo ef â hwynt. Rhyfeddai íawer fod ei fath ef yn cael cyfFwrdd megys â phen ei fŷs gyda gwaith mor ardderch- og a gwaith yr Arglwydd,oblegyd cyfrifai ei hun yn benaf o bech- aduriaid, ac yn waelaf o'r holl saint. " Er fod Paul," meddai, " yn meddwl mai efe oedd y pen- af o bechaduriaid; pe cawswn i afael ynddo, buasai ymbyngcio mawr rhyngom ein dau; oblegyd i mi wneuthur trwy wybod, yr hyn a wnaeth efe trwy anwybod ; sef erlid Eglwys Dduw: ac o herwydd hyny mi a aethum heibio iddo ef mewn gwrthryfel yn er- byn y Nef." Fel yr oedd yn heneiddio, a'i oes yn nesâu i'r pen, yr oedd yn myned yn fwy effro a bywiog, ac fel tywysen yn addfedu ac yn gwynu i'r cynhauaf. Ac er galar dywedyd, dechreuodd angau lac- âu hoelion ei babell bridd, nes yr ymddangosodd arwyddion aralwg yn ei wynebpryd, fod dydd ei ddattodiad yn agosâu. Ac wrth ei deimlo ei hun yn gwanyehu,