Skip to main content

GOLEÜAJ) CYMRU. OFNWCH DDL'W. ANUliyDEDDWCH Y BRENIN. ] Rhif. cxxhi.] IONAWR, 1829. [Llyfr VI, BYWGRAFFlAD. HANES BYWYD Mr. JOHN WILLIAMS, O LANERGAIN, Yn Swydd y Fflint.- (Parhâd tu dal. 564, Cyfrol V.) Heblaw ei lafur yn Nghoror C'lawdd Offa gyda'r Ysgolion Sabbothol, efe a fu ymdrechgar iawn i gynnal Cyfarfodydd gweddi, ac i fyned a phregethu yrìo hefyd, a hyny am lawer o flynyddoedd cyn sefydlu Cym- deithas y Goror, ac efe a fu yn brif offëryn i sefýdlu hono. Gyda golwg galarus a meddwl gofidus yr edsychai J. W. ar gyflwr truenus preswylwyr annuwiol ac anfoesgar yr ardaloedd hyn. Eu hiachawdwriaeth dragywyddol hwy ydoedd yn beth agos at ei galon bob amser; a hyn a'i gwnai mor llafurus am fod o ryw lesâd iddynt. Cai gan ambell bregethwr yn awr a phryd arall i fynedyno. er mai yn líed anfynych- Y Parch. T. Joneso Ddinbych oedd y cyntaf a gafodd efe: efe a 'bregethodd yno ddwywaith. Bu J. W. mewn trafferth fawr, (y tro cyntaf,) yn cael lle i gadw yr odfa. Ni roddai neb yn y gym- mydogaeth fenthyg ei dŷ ; ond rhyw gymro oedd yn byw mewn bwthyn bychan yn ymyl Celster- ton, îs law Penarlâg, a agorodd ei <idrws. Yr ail tro yr aeth Mr. Jones yno i bregethu, efe a safodd ar y Llong-borth a elwir Connah's Quay, ac yr oedd golwg druenus ac ymddygiad anfoesgar iawn ar y gwrandawŷr; rhai yn feddwon, ereill ýn siarad a'u gilydd, ereill yn gwawdio ac yn chwerthin. Effeithiodd hvn mor ddwvs ar feddwl y gwrol a'r enwog Jones, fel yr ydoedd braidd yn methu dweud gair wrthynt. Ond ni bu y tro hwn, a llawer o droion o'x- fath yn un atalfa i J. Williams i lafurio yn eu plith. Ond yn y gwrthwyneb, bu fel rhyw ail-en- nyniad i'w zel i barhau i arfer moddion yn eu plith. Ymdrechai gyda phersonau neillduol, ac yn y cyfarfodydd misol, am. gael pregethu i'r trueiniaid hyn. O'r diwedd rhoddodd yr achos ger bron y Parch. Mr. Charles, ac mewn attebiad iddo ar yr achos, efe a ddywedai, " Oes John, y mae eisiau 'pregethu yn y manau hyn, mae yn wir; ond y mae ar. noch eisiau estyn eich terfynau o afon Gaer i afon Bristol!" Yn fuan ar ol hyn sefydlwyd y gym- deithas fuddiol hòno, a elwir " Cymdeithas at daenu gwybod- aeth grefyddol yn Ngoror Clawdd Offa." Efe a fu yn ymdrechwr glew o blaid hon, yn aelod ffydd- lon o honi, ac yn gyfranẅr helaeth tuag atti, tra y bu efe byw. Efe a roddai Guni yn y flwyddyn at hon ; Guni yn y flẃyddyn at yr Hibernifin Societỳ; a Guni yn y flwyddyn at Gymdeithas y Mân Draethodau, &c. Yr oedd gan- ddo dyddyn bychan yn Nghaer- wys, o wyth bunt yn y flwyddyn, ac yr oedd yn rhoddi y cyfan at achosion crefyddol. Efe hefyd oedd brif-gynnalydd yr uchos hwnw, pe.rthynol i'r corph yr oedd