Skip to main content

Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y Brenin* RHIF. LXVIII. MEHEFÍN 1824. LLYFR III. YCHTDIG O GoFFADWRIAETH AM Y DIWEDDAR 3VÎR. JoHN EdWAEDS, o'» PlAS-YN- Nghaerwys, YK SWYDD y Ffunt. {JANWYD ef mewn lle a elwir Ereiniog, yn mhlwyf Penmorfa, yn swydd Gaernarfon, ar yr 8ed dydd o Medi, 1755, He y buasai ei hynafiaid ef byw yn olynol, uwchlaw cof v.a hanes Tyddyn ardrethol o gryn faintioli oedd ei le genedigol ef. Bu farw ei fam pan oedd efe yn bedair oed. Treuliodd I. Edwards y rhan foreuol o'i oes yn llwybr cyffredin natur lygredig. Ei hoffddifyrwch natur oedd darllen a chyfansoddi Prydyddiaeth ; hyd nes yr ydoedd o ddeutu ugain oed. Ar ryw bryd pau ydoedd o be(!air ar bymtheg i ugain, efe a rbai o'i gyfeillion cyfoed, a aethant, megys yn ddam- weiniol, i wrando pregeth gan yr hen bregethwr enwog hwnw, Mr. John Pierce, mewn lle a elwir Hendre' Hywel, o ddeutu dwy filltir o Eréiniog. Gwnaed ar- graff ddwys ar ei feddwl drwy 'r bregetb hòno, fel y clybuwyd ef yn dywedyd lawer gwaith nad anghofiai mo'r tro bytb. Yr oedd yn Llanmihangel y Pennant, (yr hwn blwyf sydd yn cyfhwrdd â phlwyf Penmorfâ,) Weinidog llafurus iawn o'r enw Mr. Hughes,* yr hwn oedd yn rhagori llawer ar Weinidogion* y plwyfydd yngyffredin y dyddiau hyny; yr hwn a fu yn offerynol i droi llawer un o gyfeiliorni ei * Yr oedd Mr. Hughes, y Person cry- bwylledig, yn wr o faintioli mwy na cby- ffredin; o herwydd hyny, arferai y bobl ei alw ef, Hughes Fawr. tfordd. Daeth I. Edwards i gyd- nabyddiaeth â Mr. Hughes ar ol iddo gael ei sobri am fater mawr ei enaid, a bu Mr. Hughes o lawer o lês iddo drwy ei gyngh- orion, a'i rybyddion, ei hyffordd- iadau, a'i annogaethau. Trwy ei annogaeth ef y darfu iddo ymuno â Chorph y Methodistiaid. Pan oedd efe mewn cyfyng gynghor, gofynodd i'r Parch. Mr. Hughes, ryw dro pa beth a wnai, ac i ba le yrai. Attebodd yntau yn dirion iawn, gan ddywedyd, " Dos di, fy machgen, at y cwp-bwrdd lle yr wyt ti yn cael bwyd." Gan mai gydâ 'r Methodistiaid yr ydoedd yn cael ei borthi a'i ymgeleddu, yno y gwnaeth efe ei gartref dros ei oes. Fel yr oedd yn cynnyddu mewn oedran a phroffes, daeth ei gyn- nydd yn amlwg mewn defnydd- ioldeb. Daeth yn fuan i fod yn aelod o'r Cyfarföd Misol yn y Sir. Tua 'r flwyddyn 1787, efe a ddechreuodd bregethu, ag efe y pryd hyny yn 32 bed. Parhâodd yn ffyddlon, yn ol mesur ei ddawn a'i gyrhaeddiadau, dros ei oes, nes ei luddias gan nychod, afiechyd, ac arteithiau gofîdus dolur y garegj yr hyn yn y diwedd a derfynodd ei oes lafurus a gwerthfawr. Yn y flwyddyn 1790 y prìod- wyd ef ag Elizabeth Jones o Hafod Ifan, gerllaw yr Yspytty, yn sir Ddinbych, yr bon, ynghyd a thri o blant, o adawyd i alaru am bri'od ffyddlon, a thad tyner.