Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

/ . J : ^ ■ * ' GOLEUAD CYMRU. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y Brenin. Rhif. CXI.] JONAWR, 1828. [Llyfr v. BYWGRAPFIAD. HANES BYẂYD Y PARCH. JOIIN NEWTON. Hyderwn fod ein darllenwŷr yn cael cymmaint o ddifyrwch wrth ddarllen bywgi'affiadau yrehwog- ion yr ydym wedi bod yn sôn am danynt yn ddiweddan, ag yr ydym ninnau yn ei gael wrth eu casglu. Ondnid am ddifÿrwch y dylai fod ein hymgais yn benaf; eithr am adeiladaeth—am hyfforddiad— am ëBÌámpl, a'r cyí'ryẃ esiampl ag y tâl dywedyd yn yr olwg arno, ' Dos, a gẁna dithau yr un modd.' Ar ol y gwŷr a enwasom eisoes, y mae yn rhëolaidd i ni osod yn nesaf, ond nid yn isaf, goffadwr- iaeth y duwiol barchedig John Newton, yr hwn oedd gyd-oeswr â'r lleill * a'u gor-oeswr hwy oll. Ac megys y bu iddo fwy o dreigl- iadau a chyfnewidiol amgylch- iadau nag odid, y mae yn debygol y denir ni i ryw raddau mwy o feithder yn ei hanes, er bod yn lled ddiammeu genym y Uyngcir y meithder gan yr hynodrwydd. Mae yn debyg nad oes modd rhoi gwell a chrynöach darluniad o'i ddyddiau boreuaf,na'r hynarydd ef ei hun yn y llinellau canlynol: "Ganwyd fi yn Llundain ar y 24ain o Orphenhaf, 1725. Fy rh'ieni, er nadoeddyntgyfoethog, oeddynt gariadus. Fy nhad dros lawer o flynyddau a fu yn llywydd * Mae genym fwriad i roddi ìywbryd, yn ystod y bywgraffiadau hyn, dalìeni ddangos ar un golwg pyd an"=eriad amryw o'r cyfryw cnwogion. llong a arferai fasnacliu yn Môr y Canoldir. Yn y fl. 1748 gwnaethpwyd e.f yn Rhaglaw York Fort yn Hudson's Bay, ac yno y bu farw yn 1750. Fy mam ydoedd wraig dduwiol yn perth- yn i gynnulleidfa y Dr. Jenning, ymneillduwr. O ran ansawdd corphorol nid ydoedd hi ond gwanaidd a methiedig, ac yn caru bywyd llonydd; a chan nad oèdd ganddi blentyn ond myfì, hi a'i cymmerai yn orchwyl ac yn ddifyrwch ei hoesfy hyftbrddi a'm dwyn i fynu yn addysg ac athrawiaeth yrArglwydd. Dy- wedir i mi ei bod wedi fy nghyf- lwyno i'r weinidogaeth o'r groth; a phe cawsai arbediad. einioes nes i mi brifio i oedran cyfaddas, y buasai yn fy nanfon i ysgol 8t. Andrews yn Scotland i g;iel fy nwyn i fynu. Ond nid íèUy yr oedd bwriad yr Arglwydd : bu farw fy mam cyn fy mod ynsaith mlwydd oed. "Yr oeddwn o naturiaeth o dymher led fyfyrgar, ac nid yu fywiog nac yn cliwarëus, fel yn gyffredin y mae bechgyn o'r cyfryw oed; ond yr oeddwn níor ewyìlysgar i ddysguag oedd fy mam i'm hyfforddi. Yr oedd genyf amgyffred 11 ed fywiog, a choì* gafaelgar. Gallwn ddarllen pan oeddwn yn bedair oed (oddi- eithr enwau celyd) cystal ag y medraf yti awr; a gallwn atteb y 2q