Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YU^ (* GOLEÜAD CYMRU. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y Brenin. Rhif. CYIII.] HYDREF, 1827. [Llyfr v. BYWaBAFFI&D. HANES BYWYD Y PARCH. AUGUSTUS MONTAGUE TOPLADY. Mae cnw Mr. Toplady mor nod- edig yn y byd crefyddol, ac mor hynod ft-1 amddiffynwr dewrwych dros Galfiniaeth athrawiaeíh Eg- lwys Loegr, fel y mae yn ddiam- heuol genym y bydd boddhâol gan ddarllenwỳr y Goleuad gael eu hanrhegu â'i Fywgraffiad.— Ganwyd ef yn Fambam yn swydd Surrey, ar y 4ydd o Dachwedd, 1740. Ei dad ydoedd Richard Toplady, yswain; cadben yn mysg milwyr y brenin: a'i fam ydoedd Catherine Bate, chwaer i'rParch. Julius Bate, ac i'r Parch. Mr. Bate, Periglor eglwỳs St. Paul, ynDeritford, yr hwn hefyd a'u priododd hwynt yn yr eglwys liòno ar y 31ain o Ragfyr 1737. Iddynt y bu mab a elẁid Francis yr hwn a fu farw yn ei fabandod ; ac ar ei ol ef, ganwyd iddynt eu mab Augustus, gwrthddrych y Cofiant yma. Ei enw a achlysur- wyd oddiwrth ei dadau bedydd, sef Augustus Middleton, yswain, ac Adolphus Montague, yswain. Yn fuan ar ol ei enedigaeth, bu farw ei dad yn ngwarchae Carth- agena. Cafodd Mr. Toplady ei addysg boreuaf yn ysgol Westminster; eithr ei fam, gan fod ganddi ach- os i fyned i'r Iwerddon mewn cynghaws hawl i ryw etifeddiaeth yn y wlad hòno, a gymmerodd ei mab gyda hi yno, a ìii a'i dododd ef yn Ngholeg y Drindod yn Nublin, lle hefyd v gratìdwyd ef yn Wyryf Celfyddydau. Urdd- wyd ef âr ddydd sul y Drindod, Mehefin 6fed 1762; ac yn fuan ar ol hyny cyflwynwyd iddo vicer- iaeth Broad Hembury yn Nyfn- neint {Deronshire), Yno y lla- furiodd yn ddyfal yn y weinidog- aeth, ac yr ysgrifenodd yn hel- aeth ar amrywiol destùnau. Yn achlysurol ymwelodd hefyd a Llundain, gan dreulio ennyd o amser yno rai gweithiau ; ac wrth deimlo fod Llundain yn cytuno yn well â'i iechyd na thymher awyrol laith Dyfnneint, yr hon oecîd eisoes wedl bod yn dra niweidiol iddo, symudodd yno i breswylio yn y fl. 1775. • Oddiar daearineb ei gyfeillion Uiosog yn Llundain, ef'e a gym- merodd Gapel a berthynai i'r Diwygwŷr Ffrengig, yn agos i Leicester-fields, ynyr hwn y 'pre- gethai ddwy waith yn yr wythno8 tra y caniatâodd ei iechyd, a chwedi adfeilio o'i iechyd, efe a bregethai ynö yn achlysurol, er niweidip ei hun yn fawr trwy hyny. Ni chafodd ddim ychwaneg o dderchafiad yn yr eglwys na vi- ceriaeth Broad Hembury ; a rhag pwyso yn drwm ar y plwyfolion am y degwm, ac feîly ennill eu hanghariad, nid oedd ei elw blyn- yddol ond prin pedwar ugain punt. 2G .