Skip to main content

GOLEUAD CYMRU. Ofawch Dduw. Anrhydeddmch y Breuin. Rhif. xcvii.] TACHWEDD, 1826. [Llyfr IV. HANES Y BIBL. (Parhâd tu dal. 508.; Yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Harri V. gwnaetnpwyd eyfraith heblaw y cyfreithiau oedd eisoes mewn grym yn erbyn heresi, yn gorchymyn a'r fod i bob Lolard- iad, neu bwy bỳnag ag y ceffid yn ei feddiant, neu a ddarllenai lyfrau Wicliff, neu a ddaliai ei opiniynau ef, gael ei gyhoeddi yn euog o fradwriaeth, a bod i'w eiddo fyned yn ddirwy. Golygid y gyfraith hon yn cael ei chyfeirio yn bènaf at y rhai a ddarllenent y Testament Newydd yn Saesoneg o gyfieithiad Wicliff. Dyma olygiadau ysgrifenwŷr yr hên Groniclau: " Yn y senedd gry- bwylledig" (sef yrun a gynnelid yn Leicester) " cyhoeddodd y brenin uno'r cyfreithiau mwyaf cableddus a chreulawn, i fod yn ddeddf am byth, sef a'r fod i bwy bỳnag a ddarllenent yr Ysgryth- yrau yn yr iaith gyffredin, (yr hon y pryd h\*nw aèlwid dysgeidiaeth Wicliff,) gael colli eu tir, eu hanifeiíiaid, eu cyrph, eu bywyd- au, a'u heiddo, ac na chaent byth ddyfod i feddiant eu hetifeddion, ac y caent felly eu condemnio fel hereticiaid ger bron Duw, yn elynion i'r goron, ac yn fradych- wyr adgasaf i'r wladwriaeth.* * Complete Collection of State Trials, vol. 1, p. 49, Loud. 1730, fol.— Fox's Acts and Monuments, vol. 1, p. 649.—Wilkin's Concilia Magnas Brit. Ond er mor ffyrnigion oedd y gosodiadau hyn yn erbyn y rhai a ddarllenent yr Ysgrythyrau yn Saesoneg, yr oedd rhai er pob perygl yn chwilio am ddoethineb yn Hyfr Duw. Adraniadau o'r Testament Newydd a brynid am brisiau anwêdd, ac a ddarllenid yn ddirgelaidd ar bob cyfleusdra a geffid. Yn y fìwyddyn 1429, cyhuddwyd Nicholas Belward am fod yn ei feddiant Destament Newydd wedi ei brynu yn Llun- dain am bedwar inarc a deugain ceiniog, swm cymmaint a deugain punt yn y dyddiau yma. Hyn oedd swm dirfawr i'w dalu gan ddyn yn gweithio wrth y dydd, canys y cyfryw oedd N. Belward, fel yr ymddengys oddiwrth dyst- iolaeth William Wright, yr hwn a fynegai * ei fod ef yn cyd-weithio ag ef yn feunyddiol dios ysbaid blwyddyn ; a'i fod yn diwyd fyfyrio ar y Testament Newydd crybwylledig.' Yn yr un flwydd - yn hefyd cyhuddwyd Mai^ery Backster o ddarfod iddi geisio gan Joan, gwraig Cliffland, a'i morwyn, ' ddyfod yn ddirgelaìdd yn y nos i'w hystafell, lle y cai glywed ei gŵr hi yn darllen cyf- raith Crist iddynt; yr hon gyfraith a ysgrifenid mewn llyfr yr hwn a arferai ei gŵr ei ddarllen iddi y et Hibernise, vol. 3, p. 358, London, 1787, fol. Ttt