Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLEUAD CYMRU. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y Brenin. Rhif. xcvi.] H'YDREF, 1826. [Llyfr iv. BYWGSÄPPIAD. COFIANT Y PARCH. DAVID JONES, Y diweddar Deithydd llafurus ymhlith y Cymry yn Ffraingc. (Parhâd tu dal. 485.; Cyn i Mr. Jones bregethu ond dros ychydig ysbaid arol eiwell- âd, gwelwyd fod ansawdd adfeil- iedig ei iechyd yn galw am iddo adael Abertaẅy, a chynghorwyd ef i fynecl i Ddeheudir Ffraingc i dreulio 'r gauaf. Dilynodd y cynghor hwnw; ac er ei gysur teimlodd wellâd nid bychan yn ei iechyd tra y bu yn y wlad hòno; a chafodd ddifyrwch mawr i'w fe. ddwl trwy ddysgu iaith Ffraingc yn ei oriau seibiant. Ond pa fodd bynag yr oedd yn alar mawr i'w feddwl gael ei amddifadu o'r amledd o foddion grâs ag sydd yn Lloegr, pan nad oes yn Ffraingc ond pob difaterwch yn cael ei ddangos tuag at greîydd. O'r diwedd daeth o hyd i ryw ychydig gyda pha rai y gallai dreulio ei sabbothau yn adeiladol, mewn crefydd cymdeithasol. Erbyn hyn tybid ei fod yn ennill cryfder yn gyflym; ond yn mîs Mawrth, 1824, neẃidiodd yr hîn yn ddi- symmwth, yr hyn a ddng yn ol ei hen afiechyd, ynghyd a gradd- au mawr o'r gwaedlif. Yngwyneb hyn etto yr oedd ei feddwl yn parhâu yn siriol iawn, fel yr ym- ddengys oddiwrth lythyr a anfon- ai at gyfaill yn Lloegr, lle y dywedai:—" Hyn a'm gorfodoga i roi heibio ddysgu Ffrangcaeg am dymmor, ond yr wyf eisoes wedi cael peth mwy nag a wna i fynu y golled hon, sef y dadgudd- iadau y mae 'r Arglwydd yn gweled bod yn dda eu gwneuthur o hono ei hun i'm henaid, gan fy llenwi â mwy nag arferol o lawen- ydd a thangnefedd trwy gredu ynddo. Da y mae efe yn gwneu- thur pob peth, &c." Yngliylch y pryd hwn cym- merodd achlysur, drwy focl ei breswylfod yn gyfleus, i ddyfod i gydnabyddiaeth â'r iaith Basque, yr hon a leferir gan lwyth o bobl a breswyliant yn mynyddoedd Pyren, (Pyrennees) y rhai, o ran eu hynafiaeth, y dywedir iddynt amryw oesoedd yn ol, gilio o flbrdd y gorthrymder yn Rhufain, hen bendefiges falch y byd, a dyfod i anadlu awyr rhyddid yn nghilfachau y mynyddoedd llech- wecldog hyn. Yn ysbaid ei drigiant yn y lle hwnw, daeth hcfyd, yn annys- gwyliadol, i gydnabyddiaeth â phriodor o hen dalaeth Llydaw, ( Bretagne), yr hwn a fedrai siarad crap o iaith y dalaith hòno. Daeth i ddirnad focl iaith Llydaw yn perthyn yn agosi'rGymraeg; yr hyn a barodd iddo benderfynu dychwelyd adref trwy ryw barth o'r dalaeth grybwylledig. Felly efe a ymwelodd a Nantes a Ren- nes, lle y cafodd dderbyniad croesawgar, yn enwedig yn Ren- nes, a llawer o rwyddineb yn ei ymofyniadau ynghylch yr iaith a'r bobl. Dëalíodd yn amlwg