Skip to main content

GOLEUAD CYMRU. Ofnwch Dduìi'. Anrhydcddwch y Brenin. Hhif. XCV.] MEDI, 1826. [Llyfr IV. BYWGEAFriAD. COFIANT Y PARCH. DAVID JONES, . Y diwcddar Deithydd llafurus ymhlith y Cymry yn Ffraingc. 1 chydig fisoedd yn ol, ein dys- gwyliad oedd y cawsem fynych achlysuron i lenwi ein tu dalènau âg adroddiadau difyrus am lafur a defnyddioldeb y gwr duwiol a dysgedig yr ydym yn awr yn cael y gorchwyl anhyfryd o ysgrifenu ei Fywgraffiad. Gallesid medd. wl fod ei faes llafur wedi ei nodi allan, ac yntau wedi ei gynnysg- aeddu â phob cyfaddasrwydd o ran dyddiau ac o ran doniau i'w amaethu yn y modd goreu; ac y buasai ei lafurwaith yn dra budd- iol i eglwys Dduw ac i'r byd yn gyffredinol. Ond y Pen-gwin- llanydd a ddywedodd, " Nid eich meddyliau chwi yw fy meddyl- iau i." Nid oes i'm gwâs ieuangc hwn ond llai o waith a byrach taith nag a dybiech chwi—piy- suraf orchwyliaeth y parotôad arno, a chymmeraf ef yn ebrwydd i blith fy ngorphwysolion cyn y caífo awelon oerion yr hŵyr chwythu amo.—Ond er býred fu ei yrfa, ymddangosodd ynddo rin. weddau, a chyflawnodd orchest- ion a deilyngent iddo gael coffacl- wriaeth barchus yn mysg enwog- ion ei genedl. Ganwyd y Parch. David Tones mewn lle a elwir Cwm.creigiau- fach, yn swydd Gaerfyrddin, ar yrìleg o Chwefror, 1793. Ei dad, y Parch. Thomas Jones o Gaerfyrddin, oedd y pryd hwnw, ac sýdd etto yn parhau^yn wein- idog ffyddlon yn mhlith y Trefn- yddion Calfmaidd. Ác felly dygwyd ef i fynu mewn dysg a moesau crefyddol o'i fabandod, gan gael y fraint ddyblyg o hy- fforddiant ei rieni ynghyd ag an- nogaethau yr eglwys, fel y mae yn arferedig i blant y corph hwnw o grefyddwŷr eu cael. Ni bu y manteision hyn yn ofer i Mr. D. Jones, canys gwelwyd yr effeithiau buddiol o honynt arno pan nad oedd etto ond ieuangc iawn, ym- ddangosodd ynddo arwyddion o argyhoeddiad o'i gyflwr colledig fel pechadur. Pan nad oedd ond 11 oed arferai gyflawni rhan o'r dyledswyddau teuluaidd bob yn ail a'i fam, pan y byddai ei dad oddicartref. Yn ieuangc iawn dodwyd ef dan addysg gwr eglwysig yn y gymmydogaeth, lle y cyrhaedd- odd wybodaeth led helaeth o el- fenau dysgeidiaeth. Wedi hyny anfonwyd ef i ysgol bellach oddi- cartref, lle y cynnyddodd mewn gwybodaeth o'r iaith Ladin. Yn nesaf, tuag at ei ddwyn yn mlaen mewn cydnabyddiaeth â dysgeid- iaeth uwchraddol, symudwyd ef i ysgol ramadegol Caerfynîdin, yr hon a arolygid gan y Parch. D. Peters, un o athrawon yr Athrofa Bresbyteraidd yn y dref hòno. Ac Vn fuan hynodwyd ef fel y penaf o'r ysgoìeigion o'i g)rfoed yn yr ysgol. Yr oedd wedi dar- N N N