Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLEUAD CYMRU. Ofnrcch Dduw. Anrhydeddwch y Brenin. Hhif. XCIV.J AWST, 1826. [LLYFIt IV. BYWGRAFPIAD. COFIANT Y DIWEDDAR ROBERT ROBERTS, Bryn Byyad, Llansannan. Ganwyd Robert Roberts mewn lle a elwir Cefn-Fforest, yn mhlwyf Llansannan, yn swydd Ddinbych, yn y fl. 1755. Ei dad a'i fam y pryd hwnw a drinient y tyddyn uchod mewn bywiol- aeth gysurus. Genid iddynt bedwar o feibion a phedair o ferched ; chwech o ba rai a ymun- asant â chymdeithas neillduol y Trefnyddion Calfinaidd. Cafodd ei fam ogwyddo ei meddwl at grefydd yn moreu y diwygiad yn Ngogledd Cymru pan ddech- odd Howel Harris ac ereill ddyfod yma i bregethu; a hi a gadwodd y ffydd, ac a orphenodd ei gyrfa mewn llàwenydd. Robert oedd yr hynaf o'u meib- ion; ac efe a gafodd ei faethu yn addysg ac athrawiaeth yr Ar- glwydd; a'i gadw mewn ysgol oedd yn perthyn i'r Parch. Griífith .Tones, ac a gynnelid yn y plwyf uchod. Felly dysgodd ddarllen ei Fibl yn ieuangc iawn, a chyrhaedd i wybodaeth helaeth o egwyddorion y grefydd grist- ionogol. Y pryd hyny arferai yr ychydig bobl oedd yn profFesu gyfarfod a'u gilydd yn y Bryn Bygad, lle y pryd hwnw oedd yr hen dad Edward Parry yn byw, yr hwn oedd y pregethwr hyijaf yn yr holl ardaloedd. Yr un amser yr oedd y plant yn ymgyfarfod yn y Rugor isaf i gynnal cymdeithas neillduol; ac â hwy yr ymunodd Robert Roberts pan oedd tua deg oed. Ac efe a ddywedodd wrth ysgrifenydd y llinellau hyn yeh- ydig wythnosau cyn ei farw ei fod yn cofio am ryw bethau nertliol iawn y pryd hyny yn gweithredu ar ei feddwl, am Dduw, am ei gyflwr fel pechadur, am Iesu Grist f'el ceidwad, ac am fyd tragywyddol, &c. Efe a barhâodd yn y gymdeithas hòno hyd onid oedd tua deunaw oed. Ynghylch y pryd hwnw, ysgafnhâodd yr oruchwyliaeth arno, ac efe a lithrodd yn raddol i ymlygru gyda 'r ieuengctyd yn arferion halogedig yr oes. Ond pan oedd tuag ugain oed, efe a aeth i Gymdeithasiad oedd yn cael ei chynnal gan y Trefnyddion yn y Bontuchel; a chafodd ei argy- hoeddi yn ddwys wrth wrando un yno yn pregethu, swm materion yrhwn ydoedd, 1. Y duedd sydd yn mhob dyn i geisio difyrwch. 2. Y ffblineb o geisio difyrwch lle nad yw i'w gael. 3. Echrys- lonrwydd cyflwr y rhai a antur- iant i'r farn tan ddibrisio 'r efengyl a gwrthod Mab Duw. Yma gosodaf ran o'i hanes ag a adroddodd efe i mi, yn ei eiriau ei hun:—" Daethum ádref o'r Gymdeithasiad yn drwm-lwythog fel un na wyddai pa beth i'w wnëyd; ac yn y cyflwr hwnw y" bum lawer o ddyddiau. Ond un Kkk