Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLEUAD CYMRU. Ofnwch Ddun: Anrhydeddwch y Brenin. Rhif. xciii.] GORPHENHAF, 1826. [Llyfr iy. BYWGSAPPIAD. COFIANT AM Y DIWEDDAR MR. THOMAS WILLIAMS, 0'r Bwlch, Llaneinion, yn swydd Gaernarýon. Mr. Thomas Willums ydoedd unig fab ei dad a'i í'am, y rhai o ran eu sefyllfa yn y byd oeddynt uwchlaw y cyffredin, ac yn per- chen amryw dyddynod heblaw y Bwlch, lle yroeddyntyntrigfami. Ac fel yr oeddynt yn bobl gre- fyddol, hwy a ddygasant eu mab i fynu yn foesol a chrefyddol. Hyfforddiasant ef yn mhen ei ffordd, a phan heneiddiodd nid ymadawodd efe â hi. Cafodd ei ddwyn i fynu mewn dysg yn gyntaf yn Botwnog, yn swydd Gaernarfon, yr hon ysgol oedd y y pryd hyny yn dra blodeuog o ran dysg yr athrawon, ac o ran eu goíal am eu hysgoleigion. Bu wodi hyny mewn ysgolion yn IJoegr. Y pryd hwnw yr oedd gŵr o'r enw MivEvans yn weinidog gyda yr Ymneillduwyr yn Llanuwch- llyn, ac yn cadw ysgol yno; a dygwyddodd iddo gael ei gym- meryd yn glaf; a chan na wyddai íim neb mor addas a Mr. Williams i gadw yr ysgol yn amser ei sal- der, efe a anfonodd am dano, gan ddymuno arno gynnal ei ysgol yn ei absennoldeb ef. Ac á hyn y bu Mr. Williams mor ufudd a chydsynio. Byddai yn dueddol iawn i sôn am yr hen bobl dduw- iol yn Llanuwchllyn. Ar ol hyny dymunodd y Dr. Edward Williams arno am fyned i'w gynnorthwyo yntau yn ei athrofa yn Nghroesoswallt. Ac efe a aeth ac a arosodd yno 17w yspaid o amse^ Wedi hyny, mewn ufudd-dod i'w dad, aetìi yn swyddog y gyllidaeth (officer of ihe e.rcise;) a dilynodd yr alwed- igaeth hòno dros ryw hjd o am- ser yn swydd Forganwg. A chlywais gamnoliaeth fawr iddo yno gan amryw o'i hen gyfeillion, oherwydd ei fwyneidd-dra fel cyf- aill, a'i sobrwydd fel cristion, a'i ddiwydrwydd yn dilyn moddion grâs. Ond gan nad oedd yn hoffi yr alwedigaeth hòno, a'i fod yn wanaidd i deithio, dychwelodd adref, a thrwy ffafr yr Arglwydd Bulliley, cafodd fyned i Lerpwl i'r Meddyg-dŷ (Dispensan/J a'i ddwyn i fynu yn Feddyg. Yr oedd hyny yn hollol gytunol â'i feddwl, a dilynodd yr alwedigaeth hòno tra y gallodd, a bu yn ddef- nyddiol ynddi, ac yn lìes i lawer- oedd. Yr oedd Mr. Williams yn dduwinydd craff, yn naturieithwr celfydd, yn ysgolaig cywrain, yn Gymreigiwr llithrig, ac yn Sais parodol. Yr oedd yn hyddysg yn yr ieithoedd Groeg, Lladîn, a Ffrancaeg. Yr ydoedd hefyd yn ddadganwr da, ac yn fawr ei awydd am fod mawl yr Arglwydd yn cael ei gyflawni yn gerddgar a soniarus, yn yr addoliad cyhoedd, ac yn y teulu gartref. Yr ydoedd yn drugarog wrth y tlawd; fn G G G