Skip to main content

GOLEUAD CYMRU. Ofnrech Dduw. Anrhydeddnch y Brenin. Rhif. XCII.] MEHEFIN, 1826. [Llyfr IV. BTWGKAFFIAD. COFIANT Y DIWEDDAR JOHN LLWYD, Tan-y-rhiwiau, Llansannan, yn swydd Ddinbych. Dywedir i ni yn yr Ysgrythyr Lân fod " coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig." Ac fe'n gorehym- ynir i " feddwl am ein blaenoriaid y rhai a draeíhasant i ni a,ir Duw, a dilyn eu ffydd, gan ysíyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Ac odid bod neb mor ddiserch i'r rhai da, na farna yn gyfaddas osod ychydig ar glawr hanesiaeth er coffa parchus am yr henafgwr a grybwyllwyd uchod. Mab ydoedd i Risiard a Mari Llwyd, y rhai oeddynt yn byw mewn'tyddyn bychan yn y plwyf hwn ac a elwir Bryn-du isaf. Genid ef yn mis Gorphenaf 1751. Pan ydoedd tua dwy flwydd neu dair oed, bu farw ei dâd ; ac his gallai ei fam roddi iddo ond ychydig o ysgol. Dywedir ý bydd- ai rhywbeth difrifol iawn ar ei feddwl pan ydoedd yn lled ieu- angc, am y bod o Dduw, &c. ac y byddai yn gofyn Uawer o gwest- iynau i'w fam pan tua phump neu chwech oed; megys, pwy a wnaeth yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, &c. Yr oedd ei fam, ynghyd a thri o'i frodyr, Dafydd, Robert, a Phedr, yn proffesu crefydd, ac yn aelodau gyda'r Trefnyddion Cal- vinaidd, y rhai oeddynt y pryd hwnw yn ymgynnull yn y Bryn Bugad.* * Tŷ yw Bryn Bugad yn agos i gapel Tan y-fron, Ue yr arferid pregethu cyn adeiladu y capel yno Ond er hyny, gwyllt a dirieidus y parhàodd John Llwyd, ac yn nodedig am ei gastiau dichellgar hyd y fl. 1765, pan y dygwyddodd iddo ef ac ereiil o'i gy foedion, ar brydnawn sabbath teg yn yr haí, fyned i odfa(yr hon oeddyn cael ei chynnal y pryd hwnw ar fin y ffordd yn agos i'r Dafam-newydd, rh\rag Llansannan a Nantgiyn,) heb ganddynt ddim gwell dyb,en mewn golwg nag i aflonyddu yr addoìiad ! Wedi dyfod o honjmt i'r lle, efe a glywai y pregethwr yn adrodd ei destun; a pharodd yr Arglwydd i'w eiriau lyna yn ei feddwl fel saethau, ac i'w oleuni lewyrchu yn ei galon yh y fath fodd, nes ei rwymo i wrando yn ddifrifol a sobr ; nes dygwyd ef i ganfod graddau o ddrwg ei gyf- lwr truenus, a'i dclwyn i bender- fynu gadael ei ffyrdd drygionus am byth. Yn fuan wedi hyny ymunodd â'r Trefnyddion yn nghymdeithas neillduol y plant, yr hon a gynnelid ar yr un amser a chymdeithas y rhai mewn oed- ran, ac vn yr un tỳ, ond eu bod mewn gVahanol ystafelloedd ; eithr ymhen rhyw yspaid o amser, bu orfod iddynt symud hon i dŷ yn gyfagos, yr hwn a elwid Rugor isaf; o herwydd (fel y tybir) fod y naill yn rhwystr i'r llall, trwy ei bod yn tòri allan i lefain Haleluia ac i orfoleddu yn ddirfawr gyda'r plant, cyn i'r hên bobl ond yn b:in Ddd