Skip to main content

GOLEUAD CYMRÜ. Ofnwch Dduw. Anrhydcddwch y Brenin. Rhif. XC.] EBRILL, 1826. [Llyfr IV. HANES Y BIBL. (Parhad tu dal. 339.; Oi 'DDIWRTH ddichellion es- gobion Rhufain, ac eilun-addol- wŷr yr India, am y rhai y soniasom ddiweddaf, trown ein golwg at olygfëydd llawer hawddgarach, sefi fysg difFuant fawrygwŷr yr Efengyl, a'r rhei'ny oedd y Wal- densiaid. Yn eu plith hwy y ffurfiwyd y cyhoeddiad cyntaí'o'r Bibl i iaith Ffraingc. Tua 'r fl. 1160, Peter de Vaux, neu Waldo, marsiandwr cyfoethog o dref Lyons, yn Ffraingc, wedi cael o hono ei argyhoeddi o wagedd y byd, drwy. ddarllen yr Ysgrytrlyr- au, a roddodd i fynu ei orchwyl- ion bydol, ac a ymroddodd i daenu gwirioneddau 'r Efengyl. Ganddo ef, neu ar ei ddymuniad ef, gwnaethpwyd cyfieithiad o'r Pedair Efengyl, ac, fe allai, rai rhanau ereill o'r Ysgrythyr Lân, i iaith Ffraingc. Mae yn ym- ddangos mai at y cyfieithiad yma yr oedd y Pab Innocent iii. yn cyfeirio mewn llythyr at Bertram, Esgob Metz, tua 'r fl. 1200, lle yr hysbysa iddo bod llawer o'r llëyg- ion bobl wedi cael cyfieithiadau i'r Ffrangcaeg o'r pedair Efengyl, Epistolau Paul, y Salmau, a Llyfr Job, a rhànau ereill o'r Ysgrifen- adau Sanctaidd, gan orchymyn a'r fod i bwy bynag a'u darllenent gael eu hesgymmuno, a'u herlid yn dostlym. Bod y Waldensiaid yn gydnabyddus â Gair Duw sydd beth a gyfaddefir gan eu gelynion ffyrnicaf. Y mae awdwr gwthwynebol ag oedd yn cyd-oesi â hwynt yn cyfaddéf iddo ei' weled dyn gwledig anllythyrenog o hon- ynt, yr hwn a fedrai adrodd holl lyfr Job ar dafod leferydd; a chyhuddid •hwynt fel am drosedd, oherwydd eu bod yn hòni, "Mai gau-athraw fyddai y pregethwr bynag a gynnygiai ryw athraw- iaeth, yr hon nis gallai ei phrofi o'r Hen neu 'r Newydd Desta- ment.* Yn mhlith y diwygwŷr boreuol hyn, byddai 'r cynghorwŷr yn ymdaith yiíia a thraw bob yn ddau a dau, mewn gwisgoedd breision, ac yn droednoeíhion. Byddai pob un o honynt yn dwyn gydag ef lyfr bychan yn cynnwys y Pedair Efengyl, a rhyw rànau ereill o'r Ysgrythyrau, y rhai a ddarllenent ar bob cyfle a gaffent, ac a'u heg- lurent i'r bobl a'u croesawent. Yn yr erlyniad a osodwyd gan y chwiliedydd cyffredinol yn erbyn gwraig weddw a elwid Pieronetta, hi a gyfiiddefodd, " Ddyfod i dv Peter Femerius ei gŵr hi, ddau o ddieithriaid mewn dillad llwyd- ion, y rhai, yn ol ei meddwl hi, a leíarènt Italaeg, neu gangheniaith * Sec Uf-erii Gravissiraas Questionis, &c. cap. 8. passim.—Calmet I)ict. de la Bible, art. " Bible."—Allix's remarks upon Eccles. History of the Ancient Churches of Piedmont, pp. 216, 263. Xx