Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLEUAD CYMRU. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y Brenin, Rhif. lxxxix.] MAWRTH 1826. [Llyfriy. HANES Y BIBL. Parhâd tu dal. 318.) GELLIR flfurfio dryehfeddwl lled gywir o'r dull godidog ys rhwymid y llyfrau a fwriedid i'w harferyd yn y prif eglwysi, oddi- wrth y dyfyn-nodiad canlynol a dynwyd allan o restr llyfrau a berthynent i Eglwys gadeiriol Lincoln, yn y fl. 1536. " lmprimis. Cyfysgrif yn ol Matthew, wedi ei haddurno â llafn o arian euredig, ac arni ddarlun o'r Mawrhydi," (sef yr lachawd- wr) " ac oddiamgylch y darlun hwnw lun y pedwar Efangylwr yngbyd a pbedwar angel; a llun dyn ar bob congl iddo o anjrywiol feini mawrion a bychain :—ác hefyd lun traws-fynediad," wedi " colli amryw feini, a rhai darnau " bychain o'r arian-lafn. Item. " Un . gyfysgrif yn ol loan, " wedi éi rhwynio â llafn arian " euredig, a Uun y croes-hoeliad, " Mair, ac loan, a dau ar hugain " o feini gwerthfawr, ond bod " pedwar wedi eu colli."* Ond nid gwaith y Mynachod o îs-radd yn unig oedd ysgrifenu, addurno, ac argraffù llyfrau. Yr oedd Ervene, un o brif atbrawon Wolstan, Esgob CaerWrangon, yn wr enwog am addurno a lliwio. Er mwyn denu ei ysgoleigion i ddarllen, efe a ddefnyddiai Sall- wyr, ac hefyd lyfr Sacramentau, * Dugdale's Monast. Anglic. vol. 3. p. 277, Ecüt. 2nd. fol. 1675. prif-lythyrenau pa rai a addurn- iasai efe âg aur. Yr oedd hyn tua 'r fl. 98O. Herman, un o Es- gobion Normanaidd Salisbury, tua 1080, a ymostyngai hefyd i ys- grifenu, rhwymo, ac addurno llyfrau. Soniwydeisoes am yr Ef- engyl a ysgrifenwyd gan Eadflfrid, ac a addurnwyd gan Ethelwold.f Er hyn oll, tywyll iawn oedd y degfed canrif a'r unfedarddeg, ac nid oedd ond ychydig bersonau yn dangos hoflfder tuag at ddysgeid- iaeth a dysgedigion ; yn mblitb yr ychydig byny y gellir rhestru Athelstan, Brenin Lloegr, ŵyr Alffred Fawr. Yn ei deyrnasiad ef ffurfiwyd cyfraitb yn dadgan " y byddai i bwy bynag a gyr- " haeddai y cyfryw radd mewn " dysgeidiaeth, fel ag i ennill " urddau offeiriadol, gael derbyn " anrbydedd Thane," neu ben- defig. Dywedir befy.d i'r tywysog hwn ddodi rhyw Iucìdewon ar waith, y rhai oeddyntyn preswylio yn Lloegr, i gyfieithu yr Hen. Destament o'r Hebraeg i'r Anglo- Saxonaeg,J Hyn y mae yr Arch- esgob Ûsher yn eì amseru yn 930. Y mae yn y Llyfr-gell Cotton- ian gyfysgrif o'r Pedair Efengyl yn Lladin, yn hon gynt a bertbyn- ai i Athelstan, ac a ordeiniwyd ganddo ef i gael ei harferyd gan y f Warton, «í sup. X Henry's Hist. of G. B. voL 4. p. 71. —Hody, de Bib. Text. Lib. 3. p, 4lS. Tt