Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 203. EYDREF, 1843. Pius lc. Diggchcch a dedîoyddiach y Credadyn rhagor Anghredadyn. YMAE y gwir gredadyn yn ddiogei ei gyflwr a dedwydd ei sefyllfa ; er nad ydyw yn ddigoncraff ei olwg i gani'od hyny bob atnser. À thybia yr anghredadyn ei fod yn ddiogel a dedwydd, pau na fydd ond yn y perygl mwyaf, ac nad oes gronyn o elfenau dedwyddwch yn ei feddwl, a'i enaid mor amddifad o lionynt a'r diafol o burdeb. Y mae y naill yn hwyrtrydig i gredu ei fod felly, o herwydd ei ostyngedig wyldra, a'r llall yn byrbwyll gredu ei fod, pan nad yw, o herwydd ei ryfyg cableddus; y cyntaf a ddyrchefir o'r iselder darostyngol i wlad y mwynhad, a'r ail a ddarostyngir o'r dedwyddwch dychymygol i dragywyddol siomedigaeth. Ofna y credadyn yn aml mai anghredadyn ydyw; erioed ni ofnodd anghredadyn ei fod yn gredadyn! Ond yn hollol groes, fe ymdrecha ddarbwyllo ei huu mai credadyn ydyw, er nad oes un prawf o hyny ; a miloedd o brofion eglur, ac anwadadwy yn tystiolaethu yn amgen. Tybia yr anghred- adyn fyn gyffredinol) fod y credadyn yn dra diogel ei gyfiwr, a'i fod mor ddedwydd a diogel ei hnn: ond amheua y credadyn ei ddiogelwch «hun, a sicrha nad ydyw yr angrhedadyn felly.