Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 160.—MAI, 1840.—Pris lc. YRYSGOLSUL. 1. Yr Ysgol Sul sydd Jìthrofa i'r eglwys, yn cael ei dyfrâu gan ddwy ffynon,sef yr hen Destament a'r newydd. Ŷnddi y tyfodd, ac y tŷf cedrwydd cryfion cysgodfawr. Milwr- faes, lle y megir, ac y dysgir plant i ryfela rhyfeloedd yr Oen, ac y mae cewri wedi cael eucodi yma. 2. Fy nghyd grefyddwyr, ymorchestwn o blaid yr ysgol, oddieithr ein bod am i achos yr Arglwydd yn y cylchoedd yr ydym yn troi ynddynt i farw pan fyddom ninau farw. Yn íbreu y mae gafaelyd yn y genedlaeth sydd yn codi wrth ein traed, A lle y dygir y plant i fyny, yno y byddant yn debyg i aros. 3. 'Penau teuluoedd, rhaid i chwi fod yn gyfranogol, mewn rhan, yn nghyfrifoldeb eich teuluoedd. Na chaniatewch iddynt rodiana ar ySabbath; arweiniwch hwy i'r Athrofa. 4. Y digrefydd. Gwna hi yn bwnc i fyned i'r Ysgol Sul, mae rhyw swyn yn yr Ysgol a'th ddena, braidd heb yn wybod itì i newid dy enw.