Skip to main content

mptàto i HHtftttfitt* Rhif. 52.'—MEHEFIN, 1831.—Pris lc. TRAETEAWB XV. HANESYDDIAETH Y BIBL. YDylif. "A Duw a ddywedodd wrfh Noa, Diwcdd pob cnawd a tìdaeth ger fy inron ; oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy; ac wele, myfi a'iî dyfethaf hwynt gyd a'r ddaear." Gen. 6. 13. YN y bennod hon, a'r un a ganlyn, y cawn hanes y farn dryniaf a ddisgynodd erioed ar y byd yma. Tywalltwyd barnau trymion iawn wedi hyny ar Sodom a Gomora, gwlad yr Aipht, ^a llawer o wledydd eraill; ond y diluw, yn unig, a ddisgynodd dros y byd yn gyffredinol. I. Arweiniaf dy feddwl at rai amgylchiadau cyn tywalltiad y farn, teilwng iawn o'n sylw. 1. Yr achos o'r dinystr cyffredinol a ddisgyn- odd ar y byd. Ad. 11, "A'r ddaear a lygrasid ger bron Duw; llanwasid y ddaear heíÿd â thrawsder." Peth rhy anhawdd fyddai cael un darn o ymadrodd, i osod allan sefyllfa y byd, yn well nà'r adnod uchod, "Wedillygru ger bron Duw; ynllawn odrawsedd." Fel yr oedd dyn- ion yn amlhau, yr ocdd pechod yn cynnyddu, nes iddo lenwi y byd. Yr oedd yn llifo dros y byd fel môr anwrthwynebol, a thrigolion y byd yn gyffredinol yn cael eu hysgubo o'i flaen i dragyw- yddol ddinystr. 2. Sylwa mor ddisclair y mae amynedd a hir-