Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 51.—MAWRTH., 1831.—Pris lc. HANÊSYDDIAETH YSGRYTHYROL. Traethawd ar y Gr'éadigaeth. FY mhlant bychain,—yn y Traethodau ar Hanesyddiaeth Ysgrythyrol, a gynnygir i'ch sylw yn yr Athraw i Blentyn, ymdrechaf íì fy ngoreu i ysgrifenu yn ddealladwy i chwi ^blant; ac os ymdrechwch chwithau yr ochr arall eich goreu i ddeall, mae yn sicr yr atteb fy ymdrech ddyben da. I. Gwnaf rai sylwadau ar y Creawdwr. 1. Sylwaf mai Bod tragywyddol yw ein Duw ni, un heb ddechreu dyddiau, ac heb ddiwedd einioes. Edrycliwn yn ol, mae yn agos i chwe' mil o flynyddoedd er creadigaeth y byd. Yr oedd y Duw sydd heddyw yn y nefoedd, yn fyw pryd hyny. Safwn ar ymyl amser gydàg Adda; edrychwn i'r tragywyddoldeb maith a diderfyn; meddyliwn am filoedd, ie, am fyrddiynau o oesoedd—a phabethaddywedwn? "Cyn gwneu- thur y mynyddoedd, a llunio o honot y ddaear a'r byd, ti hefyd wyt Uduw o dragywyddoldeb i dragywyddoideb." " Darparwyd dy orsedd- fainc erioed, ti wyt er tragywyddoldeb." Sal. 90. 2. a 33. 2. 2. Galwaf eich sylw at berffeithrwỳdd Duw. Nid yw efe fel un o honom ni. Y mae dyn . «mwaith yn faban bach—wedi hyny yn blentyn Unystyriol—ac yn ganlynol, yn ddyn ieuangc