Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 13.—CHWEFROR, 1828.—Pris lc. TAI Y LLOSTLYDAN. (Parhad o tu daîen i.J WEDI i'r creaduriaid medrus hyn orphen eu hargae, eu gwaith nesaf yw adeiliadu eu tai. Os gallant gael ynys gyfleus o fewn i'r llyn, gwnant eu tai ar gwr hono; onid e byddant foddlon i'w gwneud yn nghwr y llyn. Dull eu tai yw crwn, neu hir-grwn: os hir-grwn, byddant y rhan amlaf yn ddeuddeg troedfedd o hyd, ac wyth neu ddeg o led, ac wyth o uchder: ond os bydd rhifedi y preswylwyr yn gofyn gwnant hwy yn fwy. Gwelwyd cyn hyn annedd fawr, yn cynnwys He i bedwar cant o honyntynddi, wedi ei rhanu yn Huoedd o fân ystafelloedd, a chyfrwng o'r naill i'r Hall. Mae mur y tỳ yn waith cadarn, y rhan amlaf o gocd, yn ddwy droedfedd o drwch: cymysgant glai a glas-wellt, a gwnant gynirwd, a phlastcrant y mur yn gelfydd o fewn ac oddiallan. Mae tai y Llostlydan o dri uchder; y Ilawr isaf, gan amlaf, dan ddwfr, a phan godo y dwfr a'r llifogydd i'r ystafell ganol, symudanti'r uchaf: rhifedi pŷrth eu hanneddau ydyw tri, dau o'r ystafell isaf, un i'r dwfr ac un i'r tir; un arall yn uwch, rhag ofn i rew ac eira gau yr isaf ac felly eu rhwystro allan. Dywedir fod yn gyfFredin o 10 i 25 o dai ar yr un 'lyn, a'r rhai'n wedi eu hamgylcbynu â pholion wedi «« curo i'r llawr, er amddiftyn ou trigfanau rhng i'hyferthwy y gwyntoedd a'r llifeiriant.