Skip to main content

ATHBAW I BLENTYN. •Hyflbrddia blentyn yn mhen ei ffordd; aphan heneiddio nid ymedu ä hi."—Diar. xxii. G. MAI, 1850. Yn mhlith lluaws o bethau rhinweddol ac sydd yn teilyngu eu cofnodi, y mae coffa am rinweddau plant da, yn enwedig plant da yr Ysgol Sabbathol, yn haeddu eu hargraffu mewn memrwn o aur, a'u llythyrenu âg adamant, a'u cadw yn ofalus hyd pan wawrio y horeu y deffroant, ac y codant i beidio ail farw. Gwrthddrych y gofeb hon ydoedd Edward, mab i Thomas ac Elisabeth Jones, Penycae, plwyf Riwabon, aelodau parchus a defnyddiol yn eglwys y Bed- yddwyr, er's llawer o flynyddau bellach. Dygwyddodd idd ci riaint symud o Benycae i le a elwir Sutner hill, gwaith glô yn agos i Brymbo, plwyf Gwrecsam. Yr oedd tri brawd o naddyntyn gweithio ar lawr yn y pwll un diwrnod, yn nghyda lluaws ereill, pryd y cymerodd tanchwa ddinystriol ac ar- swydus le yn y pwlî, yr hwn a achosodd farwolaeth arswydus a dychrynllyd y bacbgen da yma, yn moreu ei ddyddiau, ac yn nechreu ei ddefnyddioldeb; "Éi haul a fachludodd tra yr oedd hi eto yn ddydd." Yn nghanol ein bywyd yr ydyrn yn angeu. Hyderwn fod Edwahd bach yn nghanol y nef, ar y palmant aur, ac yn cael ambell i drem ar y dydd y bydd angeu yn y bangfa olaf, ac yntau yn adsain y bryddest olaf'ar ei í'edd. Fel person yr ydoedd o gyfansoddiad cryf, wyneb agored, golwg ddifrifol, eto yn llawen, o ymddygiad gweddaidd a dirodres, ac o benderfyniad gwrol a didroi yn ol. Yr oedd ei feddwl yn gyfìym a threiddgar, a'i gof fel blwch aur wedi ei lanw hyd yr ymyl âg ysgrythyrau, salmau, hymnau, ac odlau ysbrydol. Ei ymddiddanion oeddynt yn deilwng o Gristion haner can' mlwydd, a'i feddwl wedi ei lwyr argyhoeddi o'r anghen am wir grefydd, ac er pan y bedyddiwyd ei ddau frawd, yr oedd mór anesmwyth nes y byddai yn wylo yn hidt wrth feddwl am ei gyflwr. Bu am rai wythnosau yn ofni roag i neb ddiystyru ei ieuengtyd ef, ond ar nos Sabbath olaf