Skip to main content

ATHRAW I BLENTYN. 'HyíTordftia blentyn yn mhen ei fforddj aphau heneiddio nid ymedu â ' hi."—Diar. xxii. C. EBBJLL, 1850. Fy Mhlant Anwyl a Hoff,—Y mae llawer o son yn y Beibl am Seirph. Clywn yn nechreu y llyfr santaidd, "A'r Sarph oedd gyfrwysach na holl fwystfiíod y maes." O herwydd ei gwybodaeth a'i chyfrwysdra, defnyddiodd y Diafol y Sarph i dwyllo Adda ac Efa: a gal wyd yntau yr hen Sarph, y Diaíbl a Satan, am ei fod wedi, ac yn twyllo dytiion. Er fod y Seirph y creaduriaid mwyaf digymhorth, heb feddu na thraed i ddianc, na chyrn i gornio; a dyn, a phob creadur arall, yn elyn marwol iddynt, y mae y Crewr aoeth wedi rhoddi y gallu sydd ganddynt i wenwyno, i'w hamddi- ffyn. Ac er nad oes ond ychydig o honynt yn wenwynig, y mae y gwenwyn sydd gan rai o honynt, yn fáth o amddiffyn i r holl hiliogaeth. Nid yw rhai o honynt ond bychain, y mae rhai ereill yn 'awr iawn, ac yn alluog i droelli o amgylch tarw gwyllt,—ei wasgu i farwolaeth, a'i Jyncu yn araf, yn un cyfan-ddarn. Y mae y natur ddynol wedi myned mor dywyll a llygredig, fel yr addola y Sarph. Addolid hi gan yr Aifftiaid gynt, a