Skip to main content

ATHRAW I BLENTYff. ' HyíTorddia blentyn yn nihen ei fibrdd; aphau heneiddio uid ymeduâ hi."—Diar. xxii. C. IONAWR, 1850. YMDDIDDAN III. Samuel.—Yn ein hymddiddanion diweddaf, ar y sodd-gloeh, galwasoch awyr yn sylwedd, ac nas gall un sylweddaralí gymeryd ei le heb ei yru ymaith yn gyntaf; a rhyw bethau ereill ac oedd yn cyiihyrfu fy awydd i wybod ychydig ych- waneg am yr awyr, yn ei briodoliaethau a'i ddefnyddiöldeb. Tad.—Defnyddiwn yr adeg bresenol i dy foddloni, fy mhlen- tyn. Gan i ti grybwyll y nodweddiad uchod perthynol j awyr, byddai yn well i ti yn awr wneuthur prawf o hono, cyn yr elom yn mlaen. Y mae genyt yswigen lawn o wynt; gosod hi ar y llawr,—dyro bwysau arni. Ti weli fod yr awyr yn dal gryn bwysau, pe bai yr yswigen yn ddigon cryf i ddal yr awyr heb chwalu, daliai gan' tuneìl. S. Ai yr un elfen ydyw y gwynt a'r awyr? T. Ië. Awyr mewn cyffroad ydyw y gwynt; yn rhuthrp i wag-le, wedi ei achosi gan wres, neu ei wasgu gan oeraù !: S. A wyddys am gyfansoddiad yr awyr?