Skip to main content

ATHRAW I BLENTYN. ■Uyfiorddia blentyn yn mheii ei flbrdd; a phan heneiddio nid ymedu S lii."—Iìiar, xxii. G. RHAGFYR, 1849. YMDDIDDAN II. Samuel.— Fy nhad, eefais lawer o ddifyrwch yn yr ymddi- ddan fu rhyngom am natur dwfr a'r agerddlong. Byddai yn dda genyf ddeall tipyn yn nghylch y sodd-gloch' Tad.—Y mae yn achos cìiolch fod y Creawdwr doeth a da wedi gwneyd elfenau y greadigaeth yn y fath fodd, fel y gall dyn, o'u hiawn ddeall, eu defnyddio i wasanaeth mor fuddiol; —gall ddefnyddio y gwynt i yru ei long,—i nithio ei j'd; y_ dwfr i falu ei ŷd, i lifio ei goed a'i gerig, nyddu ei wlan a'i gotwm : gwneyd awyr-bwlyn i ehedeg yn yr awyr, a'i sodd- gloch i gerdded a gweithio yn ngwaelod y môr. Y mae yr Arglwydd wedi darostwng poh peth i wasanaeth dyn. S. Pa fodd nad yw y dwfr yn llenwi y sodd-gìoch ac yn boddi y dynion sydd ynddi? T. O herwydd fod y gloch yn llawn o awyr, a bod awyr yn sylwedd, nas gall un sylwedd arall gymeryd ei le, heb ei yru ymaith. Er prawf, gosodwch gwpan wydr a'i gwyneb i lawr, gan ei dal yn wastad mewn dwfr, a rhoddwch friwsion-