Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 182,—IONAWR, 1842.—Pris lc. HOLWYDDOREG, &c. Yn mha un yr ystyrír Natur Teyrnas Crist—Cyn- nwysiad awdurdodiad Crist—yn nghyd ag es- amplau ei bobl ysprydoledig, er egluro Natur, Deiliaid, Dull, Dyben, a Phwysigrwydd yr ordinhad o Fedydd. (I.) Jlm Eglwys Dduw. Gof. A oes gan Dduw eglwys yn y byd ? Att. Oes, "Ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys" medd Crist. G. Beth ydyw eglwys Gristnogol? A. Cynnulleidfa o ddnwiolion wedi eu trefnu trwy gyfundeb gwirfoddol yn cyd-gyfarfod i addoli yr Arglwydd ac i gadw ei orchymynion. G, A ydyw babanod ddim yn gwneud i fynu ran o eglwys Dduw, ac yn meddu hawl i holl freintiau y grefydd Grist'nogol? A, Nag ydynt; oblegyd nis gallant ymrwymo Ín wirfoddol i gadw gorchymynion Crist. Am yny "Yn mhob cenedi y neb sydd yn ei ofni ef ac yn gweithredu cyfiawnder sydd gymeradwy ganddo ef." G. Fe ddewisodd Duw y genedl Iuddewig gynt yn eglwys iddo ei hnnj ac onid oedd babanod yn gwnend i fynu ran fawr o'r eglwys hono? a