Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^tftrato í njleittgttt ,*+*■ Rhif. 127.—GORPHENA.F, 1837.—Pris lc Y WADD. Ycreadur bychan hwn sydd un o weith- redoedd yr un gallu a doethineb ag a'n crëodd ni ddynion, ac y mae y creadur hwn yn ateb dyben ei osodiad. Er fod y twrch daear yn aml iawn yn Nghymru a Lloegr, eto nid oes un i'w gael yn yr Iwerddon; ac y mae llawer o'r Pabyddion yn y wlad dywyll hono yn meddwl mai yr hen Gymro enwog St. Patric, a'u hoffrymodd hwy a'r nadroedd o'u gwlad. Du ydyw lliw y twrch yn gyffredin, ond y mae rhai brithion a gwynion o honynt. Mae llygaid y wadd mor fychain, fel y meddyliodd llawer na roes y Crëwr iddo lygaid, am hyny arferid ceryddu yr anwybodus gyda ni ä'r dywediad gwawdus, "Gwyddost gystal a'r ^ Vrch daear am yr haul." Wrth edrych yn graff i ben y wadd canfyddir dau lecyn du, a dyma ei lygaid, Trwy help chwydd-wydr,