Skip to main content

SUftrato t Ul^ntöttt Rhif. 121.—IONAWR, 1837—Pris lc. At Ddarllenwyr yr Athraw i Blentyn. Blwyddyn newydd dda i chwi, fy anwyl gyfeillion. Gan fod yn ddyledswydd arnom wrth gyd-fyw â'n gilydd wneuthur llêsi'n gilydd, í oleuo ein gilydd fely goleuni,—a phereiddio ein gilydd fel yr halen, ymdrechaf yn yr ysgrif hon eich llesâu. Y lles y dymnnwyf ei weini i chwi y w yr un rhagoraf, lles wrth fyw, wrth farw, ac i dragwyddoldeb. Cynnorthwyed yr Arglwydd fi i ysgrifenu ychydig linellau, a chwithau eu dar- llcn er eich llesàd. Nid wyf ar hyn o bryd yn eich cyfarch chwi, filwyr ieuainc Crist, dim ond dwyn i'ch cof eiriau eich blaenor,—"Dal yr hyn sydd genyt, fel na ddygo neb dy goron di. Ond á chwi, sydd hyd yma yn byw niewn anufudd-dod i Frenin Sion, y maeafynwyf. Fy nghyfeillion, dymunwyf eich sylw mwyafdwys ary berthynas rhyngoch â'r Brenin tragwyddol, anfarwol, ac anweledig. Chwychwi ydych ei greaduriaid ef; gwrthrychau ei ofal, ei ddaioni, a'i drugaredd. "Efe a'n gwnaeth, ac nid ni tin hunaín." Beth yw y ddyledswydd sydd yn codi oddiar eich per- thynas âg ef fel eich Creawdwr, a'ch cymwynaswr daionus? Beth a ddy wed ef ei hun am ein dyled- swydd? "Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, a'th gymydog fcl ti dy Auh." Dyma y rhwymedigaeth 6ydd yn codi oddiar ein perthynas à'r Brenin mawr. Wele yn awr, ddarllenydd gwerthfawr, pa fodd yr ymddygaist ti at gyfraith yr Arglwydd?