Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

&tfirato i mmtm* ^ Rhif. 113.— MAI, 1836.—Pris lc. GWLAD CANAAN neu y TIR SANTAIDD. (PATIHAD O TU DALBN 43.) 4 Hinsawdd a thytnhorau. Mae y Tir santaidd yn gorwedd yn y pumed hin-gylch, rhwng y 31 a 34 lledred ogleddol; am hyny, disgwylir yn y He hwn ei hîn yn yr liaf fod yn boeth iawn. Ond gan fod arwyneb y Tir santaidd wedi ei amrywio gan fynyddoedd a gwastadoedd, mae y rhai hyn yn peri i'r hin fod yn anwastad a chyfnewidiol. Ar y dehau mae yncael ei chysgodi gan fynyddan mawrion rhyngddi ag anialwch tywodlyd Arabia ; ac awelon o fòr y Canoldir yn ei hoeri o'r gor- llewin. Mae mynydd Libanns yn ei chadw rhag gwyntoedd y gogledd ; a mynyddoedd Hermon rhag gwynt y dwyrain. Tra mae yr awyr yn fywiog ac oeraidd yn Saphat, yn Ngaliiea, o blegyd uchder ei sefyllfa, mae eu cymydogion yn Nglyn Jezreeì yn dyoddef gwres mawr, fel y mae y trigolion yn gallu crasu eu hara wrth wres yr haul. Ond a siarad yn gyffredinol, mae yr hîu yn gyffredin yn hyfryd, yr haf yn dra sych, y dydd yn boeth, a'r nosweithiau yn oerion, weithian yn oerion iawn. Mae ganddynt chwech o dymhorau; amser hau a medi, oerni a gwres, haf a gauaf. Eu hamserhansydd o ddechreu Hydref hyd ddechreû Rhagfyr: en ganaf sydd o ddechreu Rhagfyr hyd ddechau Chwefror: eu tymmor oer o ddechreu Chwefror hyd ddechreu Ebrill: en cynhauaf o ddechreu Ebrill hyd ddechreu Mehefin : eu haf