Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 109.—IONAWR, 1836.—Pris lc. Y DDYLEDSWYDD O CHWILIO YR YSGRYTHYRAU. YMAE Duw, o'i anfeidrol drugaredd, wedi rhoddi i ni yr ysgrythyrau santaidd; ni roddwyd hwy i bob cenedl. Er mai rhodd benaf Duw oedd ei Fab i farw dros* yr euog ; ond, cofiwn na buasai genyin un gywir wybodaeth am hyn oni bai rhoddi o üduw i ni ei air. Gan fod yr ysgrythyrau y fath rodd, ac yn rhodd Duw i ddynion, O! ieuengctyd anwyl, a phob oedran, chwiliwn yr ysgrythyrau. Ymddengys ein dyled- swydd i'w chwilio os ystyriwn, yn 1. / Grist, Brenin brenhinoedd, orchymyn hyn. Nisgallwn droseddu y gorchymyn hwn heb ddi- ystyrn ein cyfaill ffyddlonaf, y deddf-roddwr. doetha/, a'r barnwr uchaf. Chwiliwn yrysgry- thyrau. » 2. Am mai Duw a'u ilefarodd. Y Duw nis gall fod yn gelwyddog a'u Uefarodd. Dynion santaidd Duw a'u llefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Yspryd Glân. Duw a'u Hefarodd, er mwyn Hes tragywyddol dyn a gogoniant ei enw ei liuii. 3. Am mai dyben Duw yn eu rhoddi oedd, eu rhoddi i'ẃ chwilio. Mae sylw Duw arnom beth yr ydym yn wneud â'i air. Nid ei brynu yn unig, nid gwrando ar eraill yn ei ddarllen yn unig, a ddylem; dylem ei brynu a chwilio ein hunain. Mae yn ofnus fod Biblau rhai yn pydru heb neb yn eu chwUio. " Mi a ysgrifenais," medd Duw, " mi ft ysgrifenais iddo bethau mawrion fy nghyf- raith, ae fel dyeithr beth y cyfrifwyd hwy gan,- ddo." Chwiliwn y gair i'w ddeall; deallwn «f