Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

füftrato t ttUntim, Rhif. 106.—HYDREF, 1835.—Pris lc. CAMEL. MAE y Camel (Cawrfarch) yn gyffredin yn Arabia a Judea. Mae o t:ylch 6 troedfedd a hanner o nchder; mae dau hwrwg ar ei gefn ; ei wddf sydd yn hir, main, a phlygedig; ei ben yn fychan a'i glustiau yn fyrion ; nid oes ganddo ddannedd blaen yn yr ên uchaf, ac y mae yn cnoi ei gîl; ei goesan sydd feinion a hirion : ei garnau, mewn rhan, ond nid yn gwbl, yn fforchogi; mae gwadnau ei draed yn wydn ac ystwyth, fel wedi eu haddasu i deithio trwy y tywod ; ei flew yn deg a hirion, o liw coch-Iwyd. Mae yn ei gylla gŵd ychwaneg na chreaduriaid pedwar carnol eraill, pa un sydd fel cadwfa at ddal dwfr yn ystòr nes y byddo ei eisiau ; felly, teithia amryw ddyddiau trwy anialwch tywodlyd lle na byddo dwfr, Er ei fod yn ymddangos yn greadnr trwm,