Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

n ©imwn^ẅirîDm r Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.5 itiiíi; 3^0 AWST, 1§S9. [Priü lc. ARDYSTIAD CYMANFA DIRWEST GWYNEDD: ** Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." AT DDERBYNWYR Y DIRWESTYDD. Y mae weithian dair blynedd gyflawn er pan ddechreuwyd cyhoeddi y Dirwestydd; a dymuna y Cyhoeddwr ddychwelyd ei ddi- olchgarwch i'w gyfeillion tirion am roddi cefnogaeth iddo cyhyd. Di'au mai cymer- adwyaeth o'r egwyddorion a bleidir gan y Dirwestydd, ac nid dim arall, a'u tueddodd i'w gefnogi: ac o herwydd hyny yr ydys yn hyderu y bydd iddynt, nid yn unig barâu i ddangos yr un flỳddlondeb rhagllaw, ond hefyd yr arferant bob ymdrech er helaethu ei íedaeniad drwy holl Wynedd. Y mae y cyhoeddiad hwn wedi bod yn foddion i dueddu amryw i gofleidio dirwestiaeth, na allesid eu cael i'r cyfarfodydd cyhoeddus: a chan fod cryn lawer etto o'r fath hyny, oni allai y Dirwestydd, neu ryw draethodyn cyfíèlyb, fod yn ddefnyddiol i'r cyfry w ? Y mae llawer o ymholi wedi bod yn nghylch yr achos na ddaeth y Dirwestydd i'w gyhoeddiad y mis diweddaf. Ofnai rhai o'i gyfeillion ei fod wedi marw o'r dar- fodedigaeth: tybiai ereill ei fod wedi ei ladd gan y newyn du: ac ereill a haerent mai troi yn hunan-leiddiad a wnaethai, ac iddo lyngcu yr hen alci, fel y gelwir y gwenwyn gwirfol gan langciau yr Eryri. Yr oedd ei wrthblaid yn crechwenu o lawenydd o her- wydd yr amgylchiad, gan obeithio na flinid hwynt mwyach gan ei ddadwrdd sychlyd; eithr y caent yr hyfrydwch o fwynâu eu dognau priodol, yn gystal yr hanner peint a'r hanner baril, heb i neb eu haflonyddu. Ond y gwirionedd y w, y mae y Dirwestydd wedi bod mor anfíòdus â " syrthio y'mhlith lladron," gwaeth na lladron pen ffordd, y rhai wedi proffesu cyfeillgarweh iddo, a'i hyspeiliasant o gymaint âg y gallent osod eu crafangau bachog arno. Eithr gan fod enwau y dyhirwyr yn adnabyddus, bwriedir arfer moddion er dysgu iddynt, os gellir, y wers ragorol a thra angenrheidiol hono, sef gwneuthur cyfiawnder. Ond er y cwbl a'i cyfarfu, y mae y Dir- westydd mor rymus a gwrol âg erioed, ac yn penderfynu ymosod yn egni'ol ar y gelyn cyffredin, pa le bynag y caiff afael arno: a chan ei fod wedi defnyddio y seibiant di- weddar i hogi ei gleddyf, parotoi ei saethau, a threfnu ei arfau, teimla y calondid mwyaf i anturio i'r frwydr â'r tywysog Alcohol a'i fyddin ddu. Gwinged a wingo, digied a ddigio, a chabled a gablo, arwyddair y faner ydyw,ífBuddugoliaeth neu angau" Gan hyny gelwir ar holl ddirwestwyr fíyddlon Gwynedd, i ddyfod yn mlaen yn wrol a phenderfynol yn erbyn dinystrydd dynion; a hyderir na chaiff na gŵg, na difri'aeth, na difenwad, na chableddau, gwrthwyneb- wyr yr achos, beri iddynt ballu dim yn eu hymdrechiadau clodwiw o blaid dirwest, nes llwyr ddiddymu yr arferiad cyfíredin â phob math o wlybyroedd meddwawl. Y GYMDEITHAS DDIRWESTOL. Pan y byddo y byd wedi myned yn llygr- edig, y mae eisiau ei ddiwygio: pan fyddo rhy w bechod wedi myned yn gyffredin iawn mewn gwlad, y mae rhyw derfyniad yn sicr o gymeryd lle,—naill ai fe arferir moddion tyner er dwyn oddiamgylch ddiwygiad cyff- redinol, neu ynte cyrhaeddir mesur anwir- edd, a thywelltir barn gan yr Arglwydd, yr hwn sydd yn dal ar ffyrdd dynolryw, ar y wlad hono; ac os na effeithia yr ymweliad hwnw i'w dwyn oddiwrth eu drwg, caledu ac ymaddasu a wnant i dân a cholledigaeth dragwyddol. LIVEÄPOOL: CYHOEDDWYD GAN J. JONES, ARGRAFFYDD, CASTLE STREET: AT YR HWN Y MAE POB GOHEBIAETM PW DANFON, YN DDIDRAUJL.