Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ir wîded. Ffrwyth yr Ysbrydyw—Dirwest.' Rltif. 86.] IHEUEFII, 1§39. pPrls lc. ARDYSTIAD CYMANFA DIRWEST GWYNEDD: " Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." CYDWYBOD. Y mae y cyffredinolrwydd o drigolion ein gwlad ni. yn arferol o ddangos rhyw radd o barch a chyd-ddygaeth tuag at ddynion a fyddont yn gweithredu yn gydwybodol, gydâg unrhyw beth, oddieithr y bydd hyny yn tueddu at niwed i gymdeithas; ac ni fynai neb dynion synwyrol ddifrîo, erlid, na gorthrymu y cyfryw o herwydd eu barnau na'u hymarferion, er iddynt olygu eu bod mewn camsyniad am lawer peth. Pan ystyrier mai peth rhwng dyn a'i Dduw yw mater cydwybod, y mae yn amlwg nad ydyw yn addas i neb arall ymyraeth âg ef yn yr achos, tra na byddo yn drygu neb o'u gymydogion: a chan fod cymeradwyaeth neu annghymeradwyaeth cydwybod, yn ddigonol i wncuthur dyn yn gysurus neu yn annghysurus, yn absen pawb a phob peth arall, ymddengys mai eithaf rhes}-mol ydyw iddo ofalu am foddio hon, yn hytrach na rhyngu bodd neb dynion. Bydd hon gydàg ef byth; naill ai yn gweinyddu i'w ddedwyddwch, neu yn ei ddirdynu ac yn ei gnoi â'i chyhuddiadau yn dragwyddol. Gan hyny ymgais penaf pob dyn, yn nesaf at gael heddwch a chymod â Duw ei Farnwr, a ddylai fod am fwynâu tangnefedd a thawel- wch yn ei fynwes ei hun. Y mae y cannoedd o weinidogion yr efengyl, a'r miloedd lawer o grefyddwyr, ag sydd yn aelodau o'r gymdeithas ddir- westol, wedi ymuno ft hi yn gyffredinol, am eu bod yn barnu mai y moddion goreu ydyw a gafwyd etto i ddiwygio y byd oddiwrth annghymedroldeb; a chan yr ystyriant ei bod yn ddyledswydd arnynt wneuthur cy- maint a'r a allont tuag át wellâu sefyllfa eu cyd-ddynion yn y byd hwn, a'u dwyn i fwynâd o'r iachawdwriaeth a'u gwnant yn ddedwydd yn y byd a ddaw, teimlant y rhwymau cryfaf arnynt i lafurio o blaid yr achos dirwestol. Gyda golwg ar y pwngc hwn, gall pob un o honynt ddyweyd yn ngeiriau yr Apostol Paul, "Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cyd- wybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion,yn wastadol." Felly y mae eu gwaith yn llwyrymwrthod â di'odydd meddwol eu hunain, ac yn annog pawb ereill i wneuthur yr un modd, yn fater cydwybod ganddynt. Ped yfent hwy y cyfryw ddîodydd, neu pe peidient a chymhell dirwest ar ereill, hwy a droseddent yn erbyn eu cydwybodau eu hunain. Yn wyneb y pethau hyn, gofynwn i'r crefyddwyr ag sydd yn gwrthwynebu dir- west, ac yn chwennych tra-awdurdodi ar gydwybodau eu brodyr am eu bod yn ddir- westwyr, Ai cyfiawn yw ger bron Duw iddynt wrando arnoch, a thewi a son am ddirwest, yn hytrach na gwrando ar lais eglur eu cydwybodau eu hunain? A ddylent hwy wneyd hyny? Os na ellwch chwi deimlo dros eich cyd-greaduriaid, ag sydd yn cael eu llusgo i angau gan eu chwant at dd'iodydd meddwol,—os na wnewch chwi un ymdrech at eu hachub,—os nad gwaeth genych chwi eu colli byth,—a ydych chwi mòr greulon, mòr ddi-dosturi, ac mòr an- nynol, ag y teflwch bob rhwystr a ellwch ar ffordd y sawl sydd yn llafurio am eu hiachawdwriaeth ? Ai da fydd hyn " pan chwilio Efe chwi ? " A ydyw eich cyd- wybodau chwi eich hunain yn cyfiawnâu eich ymddygiadau ? Ond efallai mai oddiar farnu eu bod yn cyflawni gwasanaeth i Dduw, y mae y gwŷr crefyddol hyn yn gwrthwynebu yr ymdrech i sobreiddio'r byd; ac efallai mai mater cydwybod ganddynt hwy ydyw yfed LIYERPOOL: ARGRAFFWYD GAN J. JONES, CASTLE STREET.