Skip to main content

'WîDID. Ffrwyth yr Ysbrydyw—Dirwest.' Rllif. 3£.] MAI, 1839* pPris lc* ARDYSTIAD CYMANFA DIRWEST GWYNEDD: " Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb.'" ESAMPLAU YSGRYTHYROL. Y mae rhai o wrthwynebwyr y gymdeithas ddirwestol, yn hôff iawn o'n cyfeirio at esamplau yr hen dduwiolion, y sonir am danynt yn yr ysgrythyrau, fel rheswm cad- arn dros arferu gwlybyroedd meddwol yn ddîodydd cyffredin. Dywedant, gyda chryn ymffrost, fod gwin yn arferedig gan y doeth- af a'r duwiolaf o ddynion, yn yr oesoedd gynt; ac nad oedd yr Arglwydd yn gwar- afun yr arferiad cymedrol o hóno iddynt; a golygir hyn yn ddigon o sail i ninau wneyd yr un modd. Yn wyneb hyn, y mae rhai o'n brodyr yn haeru yn gadarn, nad oedd y gwin a arferid o dan yr hen oruchwyliaeth, yn win meddwol; ac olrheinir y pwngc, gyda llawer o fanylder, trwy lüaws o eiriau Hebraeg, &c. O'n rhan ni, nid ydym yn ystyried y ddadl mewn perthynas i natur y gwinoedd ysgrythyrol, fel eu gelwir, yn werth ymdaeru yn ei chylch: oblegyd y mae yn ddigon amlwg i Gymro uniaith, tebygem, fod gwin meddwol, ac anfeddwol hefyd, yn cael eu defnyddio yn ngwlad Canaan. Eithr fel y byddo i'n gwrthwynebwyr gael yr holl fantais a ddymunent oddiwrth esampl yr hen bobl dduwiol yn hyn, er mwyn tawelu eu cydwybodau tyner yn yr arferiad o yfed d'iodydd meddwol, ni a gy- raerwn yn ganiatâol mai gwin meddwol oedd yr un a arferid, yn gyffredinol, o dan yr hen oruchwyliaeth: ac, ar yr un pryd, yr ydym yn haeru, nad yw eu bod hwy yn defnyddio y cyfryw fel eu dìbd gyffredin, (os felly y gwnaent,) yn un prawf o fod hyny yn gyfreithlon ;-—ae nad ydyw bod yr Arglwydd heb wahardd hyny iddynt, yn ddigonoli brofiei fod ef yn cymeradwyo yr arferiad cyffredin p'r cyfry w dd'iodydd. Sylwer, mai nid y cwestiwn yw, pa un ai cyfreithlon neu annghyfreithlon oedd yr arferiad cymedrol o win meddwol; ond yn hytrach, A ydyw esampl dynion duwiol yn yfed gwin, fel rhyw ddîod gyffredin arall, (a chaniatâu mai felly y gwnaent,) yn ddigon o sail i ni wneuthur yr un modd. ? I hyn yr ydym yn ateb, Nâg ydyw, mewn un modd: oblegyd os yw eu hesampl mewn un peth a fernid ganddynt hwy yn gyfreith- lon, yn sail ddigonol i ni i'w dilyn yn y peth hyny, paham nad ydyw felly mewn pethau ereill, a ystyrid ganddynt morgyfreithlon? Er enghraifft: yr oedd amledd o wragedd gan amrai o'r rhai mwyaf hynod mewn duwioldeb; a d'iau nad oeddynt yn ystyried hyny yn bechadurus, eithr yn gyfreithlon; ac nid oes chwaith un gair yn cael ei goffâu ddarfod i'r Arglwydd roddi cerydd pennodol iddynt o herwydd hyny. Yn awr a ydyw ein cyfeillion gwrthddirwestol yn barod i amddiffyn yr arferiad hwn o'r eiddynt, ac i haeru nad oedd yn drosedd o ddeddf natur ? Nid felly yr oedd o'r dechreuad: un Efa a gafodd Ádda; gan hyny ni ddylasai neb arall gymeryd ychwaneg nâg un wraig ar unwaith. Y mae cymeryd esampl y duw- iolion yn yfed gwin, fel rheswm dros yr arferiad cyffredin o dd'iodydd meddwol^ yn gwbl mor anmhriodol ag a fyddai defnyddio eu hesampl yn y peth arall a nodwyd, fel rheswm i ddyn gymeryd o ddicy i saith cant o wragedd ar unwaith. " Nag ydyw," medd rhyw un, "canys fe roddodd yr Arglwydd Iesu Grist esboniad terfynol ar y pwngc yna.v Mae hyny yn wir: ac oni roddodd yr Apostol Paul derfyniad mor hollol ar y pwngc o yfed gwin, pan ddy wed- odd " Da yw nad yfer gwin," os bydàiyny yn niweidio dy frawd ? Na feddylied neb ein bod yn gosod y ddau beth hyn yn gwbl LIYERPOOL: ARGRAFFWYD GAN J. JONES, CASTLE STREET.