Skip to main content

Ffrwyth yr Ysbrydyw—Dirwest.' Rltif'. 34.] JEISIMI^, 1S39. [Pris lc« ARDYSTIAD CYMANFA DIRWEST GWYNEDD: * YR wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfiyw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." MEDDWDOD. " Hyn yn unig a gefais," meddai Solomon, " wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn: ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychym- ygion." Ac yn mhlith pethau ereill, fe ddychymygodd dyn fodd i wneuthur gwlyb- wr i syfrdanu a dyrysu ei synwyrau, trwy ei niweidio gydag ymweithiad y gwirf. Trugaredd i'r byd fuasai bod heb wybod am y ddyfais hon. Fe ddywedir mai offeiriad pabaidd a gafodd allan y ddyfais o wneyd pylor gyntaf; ac fe fu hwô yn achos o ddinystr i fywydau miliynau lawer o blant dynion. Ond er cymaint o alanasdra a wnaeth pylor yn y byd, dîau fod y gwlybyri meddwol wedi gwneuthur llawer mwy. Y mae y gelyn hwn wedi dyfod i mewn fel afon lifeiriol, gan ddwyn pob math o drueni, annedwyddwch, a marwolaeth i ba le bynag yr elo. Y mae ei dyfroedd yn angau i bob rhinwedd a chrefydd, ac yn faeth i bob anfoes a llygredigaeth. Y mae y pennodau olaf o lyfr Josuah, 2 Chron. xv. a Nehemiah ix. a x. yn dysgu i ni mai hen arferiad y duwiolion ydoedd sefydlu cymdeithasau yn erbyn prif bechod yr oes, beth bynag a allai ei enw fod. Ni a welwn hefyd mai Nehemiah ddi-euog a duwiol, a roddes ei enw i lawr gyntaf yn yr un rhestr â'r rhai euog, er eu hannog i lwyrymwrthod â merched y rhai dienwaed- edig. Ymgysylltu â merched y Canaaneaid oedd prif bechod Israel y pryd hwnw; eithr daeth gwerthu a phrynu ar y dydd Sabboth i mewn yn ei gysgod. Felly hefyd y mae meddwdod wedi agor y drws i'r un pechod yn ein dyddiau ninnau: ac y mae'r pechod yn cael edrych arno yn fychan, ac wedi dy- fod yn beth esmwyth trwy gyffredinolrwydd yr ymarferiad âg ef. Pan edrychodd y pro- ffwyd Elisëus yn grâff ar Hazael, gan wylo, a dywedyd wrtho yr achos o hyny, sef am y byddai efe yn ddyn creulon, gofynodd Hazael iddo, " Pa beth ! ai ci yw dy was, fel y gwnelai efe'r mawr beth hyn ?" Ond trwy ymarferiad â phechod, efe a ddaeth yn ddigon caled i fedru cyflawni yr holl greulonderau hyny a ddy wedasai y proffwyd wrtho, a'r rhai y meddyliodd cyn dechreu y buasai yn gi os gwnai hwynt; etto yn mhen ychydig o amser, yr oedd yn hawdd ac esmwyth iddo eu cyflawni fel dyn! (2 Bren. viii.) Sylwed pobl yr "hanner peint" ar hyn, a bydded iddynt gymeryd rhybydd, rhag i'r ychydig fýn'd yn llawer. Pethau mawrion yn gyffredinol sydd yn tynu mwyaf o sylw dynion: gwyddom am enwau y Wyddfa, Cadair Idris, yr Eifl, a Phont Menai, pryd nas gwyddom enwau bryniau, mynyddau, a phontydd llai, a all fod yn nes atom o lawer. Ond o chwithig i hyn y mae hi gydâ phethau a berthynant i foesoldeb. Un llŵ mewn annedd pobl grefyddol a ferwinai glust y bachgen wyth- mlwydd oed; a hyny am fod y pechod heb ei arfer yn y teulu: ond dywedwch wrth y rhegwr beunyddiol am iddo beidio rhegi, efe a ofyna gydâ rhêg arall, a fu iddo wneyd: yr achos yw, y mae yn rhegi mor aml, fel nas gŵyr pa bryd y gwna, na pha bryd y peidia. Y mae y pechod yn rhy fawr iddo ei weled, o herwydd ei gynefindra âg ef. Byddai gywilydd ar y Cymro di- grefydd fyned i brynu bara, caws, a chîg, ar y dydd Sabboth, am fod y pechod yn fychan mewn ymarferiad: ond rhêd y proffeswr i wario arian am gwrw, rhag ei flaen i'r addoldŷ, am fod hyny yn ffasiwn. Pe byddai i fasnachwr werthu canwyllau, sebon, brethyn, tê, coíH, bara, ac ymenyn, ar y dydd Sabboth, gwelid y crefyddwr LIVERPOOL: ARGRAFFWYD GAN J. JONES, CASTLE STREET.