Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

H IDIIIBWIMWIDÜ)* Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' Rliif. 33.] IÌWBTH, 1839. {JPrîm lc. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: a Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i heidio na rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." GWIRIONEDD. Y mae cymaint o wahanol farnau gan ddynion mewn perthynas i ddirwestiaeth, nes y mae llawer un yn teimlo cryn anhawsder i ffurfio bara benderfynol ar y pwngc, ac yn barod i ofyn, fel y gofynai Pilat gynt, " Pa beth y w gwirionedd ?" Y mae cael sicrwydd diam- mheuol pa beth y w y gwirionedd ar bob mater, yn enwedigol pethau ymarferol, o'r pwysmwy- af i bob dyn; oblegyd nid oes dim yn fwy poenus i deimladau dyn ystyriol o'i gyfrifolde!) i Dduw, na bod mewn petrusder am y modd y dylai ymddwyn: o herwydd heb fod yn ben- derfynol ei farn am lwybr ei ddyledswydd, nis gall ymaflyd ynddi gyda'r ymroad a'r egni priodol iddi. Dilys yw fod pob gwirionedd, pa un bynag ai gwirionedd anianyddol, moesol, ai crefyddol fyddo, yr un peth bob amser, neu yn annghyf- newidiol o ran ei natur: o ganlyniad ni ddichon i holl ddadleuon, ymrysonau, na rhesymau dynion, yn nghylch unrhyw bwngc, newid y gronyn lleiaf byth ar y gwirionedd am y cyf- ryw. Felly nid ydyw fod y naill ddyn yn gryf iawn o blaid dirwestiaeth, a'r llal^ mor gadarn yn erbyn y pwngc, yn ddigonol i brofi fod y gwirionedd ar y natll law na'r llall. Gan hyny y mae yn dra gweddus, îe, yn llwyr angen- rheidiol, i bob dyn chwilio i wirionedd yr egwyddorion àc sydd yn achosi y fath gynwrf yn y byd yn y dyddiau hyn. Oblegyd os yw egwyddorion dirwestiaeth yn seiliedig ar wir- iojiedd, dyledswydd pawb ydyw eu derbyn a'u tofleidio, ac ymddwyn yn ol y cyfryw: eithr os gwallgofrwydd, cyfeilioruad, twyll, a siom- edigaeth ydynt, fel yr haera rhai, dylai pob dyn eu gwrthod a'u íBeiddio. Os gwirionedd yw, fel yr haera dirwestwyr, fod gwlybyroedd gwirfol, neu feddwol, yn j hollol afreidiol ar ddyn iach mewn unrhyw j amgylchiad;—bod yr arferiad o honynt fel I dì'od gyffredin yn dra niweidiol i'r cyfansoddiad I dynol, gan eu bod yn achosi lliiaws o anhwyl- derau, clefydau, a gwallgofrwydd;—bod y syl- wedd meddwol, sef y gwirf, yn wenwyn pendant;—bud y gwlybyroedd meddwol yn achosi drygau anifeiriol yn mysg dynion, i bersonau, teuluoedd, a chymdeithas;—eu bod wedi dwyn gwarth ar achos crefydd, a'u boà yn rhwystr ar ffordd llwyddiant yr efengylyn mhob man;—os yw yr arferiad cymedrol o'r di'odydd meddwol yn ben y ffordd i eithafion annghymedroldeb; ac nad oes dim sicrwydd gan y neb a'u cyson ddefnyddiant, na fydd idda farw yn feddwyn:—os gwir yw fod dros chwe* chant o filoedd o feddwon yn y deyrnas hon, a bod tua thriugain mil o honynt yn meirw bob blwyddyn, ac yn disgyn i dragwyddol drueni: os gwirionedd yw y pethau hyn, oni ddylai pob cristion, pob dyngarwr, wneyd ei oreu er ymlid y gwlybyroedd a achosant y fath drueniA allan o'r byd ? Ai am nad yw y pethau hyn yn wirionedd, y mae rhai dynion parchus a chyfrifol yn sefyll draw oddiwrth gymdeithas àc sydd yn amcanu at alltudio y cyfryw ddîod- ydd oddiar y ddaear ? Ond os geudeb ac ynfydrwydd yw dirwest- iaeth, y mae yn alarus meddwl fod cynifer o wýr dysgedig, parchus, duwiol a defnyddiol,