Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

n a>niBwiiewiDiD* Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest." Rliîf'. 31.] IOSAWR, 1830. [Pris lc. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: M Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." AT DDERBYNWYR Y DIRWESTYDD. Y mae terfyniad un flwyddyn yn ychwaneg, yn rhoddi achlysur i'r Cyhoeddwr i gyflwyno ei ddiolchgarwch diffuant i'w gyfeillion, am y cefnogaeth helaeth a roddasant i'r Dirwestydd yn yspaid y flwyddyn enciliedig; ac hefyd, ar yr un pryd, i erfyn parhâd o'r cyffelyb gared- igrwydd iddo am y flwyddyn ddyfodol, gan yr hyderir, pa fodd hynag, na fydd ddim llai teilwng o'u cynnorthwy nag y bu hyd yma. Ni fyuai y Cyhoeddwr fyned yn mlaen ddim pellach gydâ'r Dirwestydd, nâg y hyddo ei frodyr dirwestol yn ei ystyried yn wasanaeth- gar i'r achos a hleidir ganddo. Wrth adolygu yr achos dirwestol yn gyffred- inol yn nghorff y flwyddyn ddiweddaf, yn Mrydain a'r Iwerddon, y mae yn ddywenydd o'r mwyaf genym allu dyweyd ei fod wedi bod yn llwyddiannus iawn, a bod miloedd lawer yn ychwaneg wedi ymrestru dan faner dirwest, nâg yn yr un yspaid o amser er pan sefydlwyd y gymdeithas: ac os bydd i ddirwestwyr aidd- gar Lloegr, Ysgotland, a'r Iwerddon, barhau yn flỳddlon yn eu llafur egn'iol gyda'r achos am ychydig o flyneddau etto, diau y caiff meddwdod y fath ddyrnod na chafodd erioed o'r blaen, ac y bydd gwedd dra gwahanol i'w gweled ar yr holl deyrnas. Yn wir, y mae effeithiau daionus a hendithfawr y gymdeithas ddirwestol, wedi tynu sylw cyffredinol eisoes^ ac yn eu canmol eu hunain yn rymus wrth bob cydwybod. Y mae y miloedd o deuluoedd àc sydd heddyw yn mwynhau dedwydd ffrwyth dirwestiaeth, yn gynifer â hyny o dystion byw o lesoldeb yr egwyddorion, àc sydd yn achosi cymaint o ychwanegiad at gysuron dynion. Yn Nghymru hefyd, y mae yr achos daionus hwn yn parhau i fyned yn mlaen. Efallai nad oes cymaint o frwdfrydedd wedi ei ddangos mewn rhai parthau o Wynedd, ag a ddangos- wyd y flwyddyn flaenorol, ac na bu nemor o ychwanegiad at nifer yr aelodau mewn rhai manau; er hyny y mae yr egwyddorion yn ennill tir, ac yn gwreiddio yn gadarnach yn meddyliau dynion. Ac oddiwrth yr hanesion a dderbynir o amrywiol siroedd Gwynedd, ymddengys bod gwell gobaith am barhâd yr achos yn awr nag oedd y pryd hyn y llynedd; o herwydd y mae llawer o'r gwehilion wedi myned gyda'r gwynt. " Y mae gwehilion i'r gwenith;" ac nid yw y gymdeithas buraf, ar j y ddaear, heb rai dynion diegwyddor ynddi, y rhai nid ydynt, ar y goreu, ond megys plwm wrth adenydd, neu glo ar olwynion pob achos daionus. Y mae ychydig o ddirwestwyr cywir ac egwyddorol, yn well na Uawer o rai pwdr a rhagrithiol: ac er bod rhai o'r cyfryw wedi troi eu cefnau ar y gymdeithas mewn ambell fan, y mae nifer yr aelodau yn cynnyddu, a'r gwaith yn myned rhaddo yn rhagorol o dda; a gobeithiwn yr hynodir y flwyddyn hon, trwy fod egwyddorion cedyrn dirwestiaeth yn cael eu lledaenu yn fwy, eu deall yn well, a'u rhoi mewn ymarferiad mwy cyffredinol gan bawb. Y mae ein brodyr yn y rhan ddeheuol o'r Dywysogaeth yn myned yn mlaen yn hynod o lwyddiannus, ac yn dra ymdrechgar a ffyddlon