Skip to main content

n iDniBwiiowìrÌDiD» Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest." KHíl. SOO RHAŴFYB, 1838- CPris lc. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: *' Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg ;y cyfryw i neh arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeh." Y GYMDEITHAS "FELLDIGEDIG.' Y mab rhai o wrthwynebwyr dirwestiaeth, wedi anturio haeru mai "ý felldith fwyaf a ddaeth erioed i'r byd ydyw y gymdeithas ddir- westoL" Pwy a ddywedodd felly am dani, nid yw o nemor bwys i neb, oddieithr iddynt hwy eu hunain. Ond pwy bynag ydynt, ai gwŷr llên ai gwŷr lleyg, y mae yn rhaid iddynt ddyfod a rhesymau a ffeithiau d'íymwad yn mlaen i brofi eu haeriad; os amgen ni wiw iddỳnt ddysgwyl i ddynion rhesymol goelio eu haeriad. Nid pob dywediad noethlwm a dder- bynir gan y Cymry, yn y dyddiau hyn, fel gwirionêdd; ond rhaid iddynt gael rheswm têg, neú fíaith bendant, cyn y rhoddant eu crêd i ddim a ddywedir gan neb. A phwy a faidd eu beio am hyny? Onid felly y mae yn gwedáu i bob dyn synwyrol ymddwyn ? Ond os y gymdeithas ddirwestol yw y felldiih fwyaf a ddaeth erioed i'r byd; rhaid penderfynu, gan hyny, mai y d'iodydd meddwol, yn erbyn pa rai y müwria y gymdeithas hono, ydynt y pethau mwyaf òendithfatcr a fedd y byd. Efallai mai nid anfuddiol fyddai nodi rhai o'r bendithion cysylltedig a'r naill, a'r melldithion a darddant o'r llall; fel y gallo ein darllenwyr ddewis a chofleidio y sawl a farnont hwy yn fwyaf teilwng. Yr ydym am iddynt gael perffaith chwareu têg yn hyn. Dyma rai o'r bethdithion gwerthfawr a achosir gan yr hên ddîodydd anwyl, a wrth- wynebir mor egnîol gan y gymdeithas felldig- edig: Y fendith o golli cymeriad ac ymddiried dynion parchus—y fendith o golli heddwch cydwybod—o golli cysur teuluaidd—o golli iechyd—o golli synwyrau—ac o golli yr enaid. Y fendith gysurlawn o weled gwraig dorcalonns gartref; wedi ei hamgylchynu gan blant noeth- lwm a newynog. Ond rhag nad yw hyn yn ddigonol, dyma ddysgritìad ysbrydoledig o'r bendithion a achosir gan y di'odydd meddwol. "I bwy y mae gwae? i bwy y mae ochain? i bwy y mae cynnen? i bwy y mae dadwrdd? ac i bwy y mae gwel'iau heb achos ? i bwy y mae llygaid cochion? I'r neb sydd yn aros wrth y gwin: i'r neb sydd yn myned i ymofyn am win cymysgedig. Nac edrych ar y gwin pan fyddo coch, pan ddangoFO ei liw yn y cwppan, pan ymgynhyrfo yn iawn. Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fël neidr. Dy lygaid a edrychant ar wragedd dieithr, a'th galon a draetha drawsedd. Ti a fyddi megis un yn cysgu y'nghanol y môr, ac fel un yn cysgu ym mhen yr hwylbren. Curent fi meddi, ac ni chlafychais; dulient fi, ac ni's gwybûm: pan ddeffrowyf, nri a âf rhagof; mi a'i ceisiaf drachefn." Y mae yn ddiddadl fod y pethau hyn yn effeithiau naturiol y d'iodydd meddwol—^fod y benditMon hyn yn anffaeledig gysylltedig, i raddau mwy neu lai, â'r arferiad o'r cyfryw fel d'iodydd cyffredin, ac nid rhaid i neb ammheu nad effeithia y ddiod i'w feddwi, &c. gan fod y cyfryw rinwedd yn ei natur, fel ag y nw*e hyny mor briodol iddi ag ydyw i'r tân losgi neu i'r dwfr foddi. Ond pa rai ydyw yr effeithiau a achosir gan y gymdeithas ddirwestol, yr hon a eilw rhai dvnion crefyddol «* y felldith fwyaf ?" Y mae UVERPOOL: CYHOEDDWYD GAN JOHN JONES, ARGRAPFYDD, 9r CASTLE STREET; AT YR HWN Y MAE POB GOHBBIAETH FW DANTON, YN DmDBAUL.