Skip to main content

IT ÎMIBWIÌOT^I3>ID« Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' jUtff. »00 TACHWEDD, 1838* fJPris Uc« ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: « Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." DIFATERWCH GYDAG ACHOS DIRWEST. Yn ein Rhifyn diweddaf, dangoswyd bod arfer gorfodaeth a thrais tuag at ddyn, er mwyn ei gael i ymuno â'r gymdeithas ddirwestol, yn hollol groes i egwyddorion rhydd y gymdeithas, yr hon sydd yn addef fod gan hob dyn hawl angenrheidiol, fel rhydd-weithredydd, i fTurfio ei farn ei hun ar bob pwngc a gynnygier i'w sylw; ac nad oes awdurdod gan neb person na chymdeithas, i'w yspeilio o'r hawlfraint hono. Ond er mor ífìaidd yw gorthrymder a gorfod- aeth, yn mha le bynag, a chan bwy bynag yr arferir hwy, y mae ymddygiad y dirwestwr ag sydd yn ddifater a chlauar,—yn ddiawydd a diymdrech am lydaeniad ei egwyddorion, ac am ennill ereill i'w cofleidio,—yn eithaf atgas, gorwael, ac annghyson ynddo, ac yn tueddu yn fawr at aflwyddiant yr achos. Y mae proffesu crediniaeth o wirionedd unrhyw egwyddorion, ag sydd o bwys a dy- ddoriad cyfFredinol i ddynion, gyda golwg ar eu cysur yn y byd hwn neu eu dedwyddwch yn yr hwn a ddaw, ac ar yr un pryd, bod yn ddifater am i ereill eu derbyn, yn rhoddi sail gref i ammheu cy wirdeb y cyfryw grediniaeth. Pe rhyw wirioneddau a fyddent na wnai eu credu, mwy na'u annghredu, efTeithio dim er gwneuthur dynolryw yn well, neu yn fwy eu dedwyddwch, byddai bod yn ddifater yn eu cylch yn ymddygiad digon priodol i'r cyfryw. Ond nid rhyw bethau fel hyny yw egwyddor- ion dirwestiaeth: oblegyd y mae yn ddidadl fod Uês a daioni mawr yn deilliaw i ddynion o'u derbyn, a'u rhoddi mewn ymarferiad. Gan hyny* y mae bod yn ddiymdrech a d'ioglyd i geisio ennill ereill i'w cofleidio, yn ymddygiad eithaf annheilwng o egwyddorion ag sydd mor ddaionus a gwerthfawr yn ei heffeithiau. Dilys yw fod ymdrechiadau grymus wedi cael eu gwneuthur, yn ysbaid y ddwy flynedd a hanner diweddaf, er ceisio diwygio ein gwlad oddiwrth feddwdod; ac mai nid ofer chwaith a fu y llafur, gyda golwg ar fìloedd Vr Cymry. Ond, er pob ymdrech sydd wedi ei wneyd, y mae annghymedroldeb yn uchel iawn ei ben etto mewn rhai manau, a channoedd lawer, os nad miloedd, o'n cydgenedl yn ngafael trueni echryslawn o'r herwydd. Y mae gwaith mawr i'w wneyd etto, hyd yn nod yn Nghymru; ac nid yw y cwbl a wmaed ond ychydig wrth edrych ar yr hyn sydd i'w wneuthur. Mewn ambell fan, y mae y diafol yn y dyddiau hyn fel un wedi deffro ati, gan wybod, os pery dir- westwyr yn ffyddlon, nad oes iddo ond ychydig amser; ac y mae yn gyru yn mlaen ei fyddin feddw gyda mwy o gyflymder cynddeiriog nâg arferol. Y mae hyn yn destun gorfoledd i elynion dirwest; ac y maent yn barod i ddy- weyd wrthym, gydag ymffrost satanaidd, " A welwch chwi nad ydych yn tycio dim!" Y mae yn amlwg, gan hyny, mai nid llaesu dwy- law ac ymddiofalâu a ddylid; ond, yn hytrach, arfer mwy o ddiwydrwydd ac egni nag erioed, a bod yn fwy taer mewn gweddiau ar Dduw, am fendithio ein hymdrechion llesg er achub ein cyd-ddynion oddiwrth ymarfer a'r dì'odydd swyngar a dinystriol, ag sydd yn dwyn y fath LIVERPOOL: ARGRAFFWYD GAN Y CYHOEDDWR, J. JONES, CASTLE STREET; AC AR WERTH GAN H. HUGHES, 15, ST. MARTIN'S-LE-GÍIAND, LLUNDAIN.